Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Arestiwyd 22 o bobl yn ystod ymgyrch ddwys yn targedu delwyr cyffuriau yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot.
Roedd yr ymgyrch yn cynnwys mwy o batrolau gan swyddogion mewn dillad plaen. Cafodd saith warant eu gweithredu a chafodd cyffuriau Dosbarth A eu tynnu oddi ar ein strydoedd gan gynnwys 1.8kg o sylwedd yr amheuwyd ei fod yn cocên a 200g o heroin. Cafodd gynnau taser a bron £11,000 o arian parod eu hatafaelu hefyd. Cafodd sylweddau yr amheuwyd mai crac cocên a heroin oeddent â gwerth stryd o tua £30,000 eu hatafaelu hefyd o gyfeiriad yng Nghlydach.
Mae 13 o'r bobl a arestiwyd eisoes wedi cael eu cyhuddo o droseddau, gan gynnwys:
Dywedodd y Ditectif Rhingyll Andrew Price o uned troseddau cyfundrefnol yr heddlu, “Mae Heddlu De Cymru wrthi bob dydd yn gweithredu i fynd i'r afael â'r diflastod y gall cyffuriau eu hachosi yn ein cymunedau. Roedd yr ymgyrch ddwys yn cyfuno gwybodaeth a sgiliau sawl adran o fewn y sefydliad i dargedu delwyr llinellau cyffuriau yn benodol.
“Mae'n bwysig pwysleisio bod gan bob un ohonom rôl i'w chwarae er mwyn cadw ein hardaloedd lleol yn ddiogel rhag delio mewn cyffuriau, a'r cam-fanteisio a thrais gan gangiau sy'n gysylltiedig â hynny, ac rwy'n annog y gymuned i'n cefnogi er mwyn cael gwared ar y broblem hon.
“Os byddwch yn amau bod pobl yn delio mewn cyffuriau neu os byddwch yn poeni bod person ifanc neu oedolyn sy'n agored i niwed wedi cael ei dargedu gan grŵp troseddau cyfundrefnol, rhowch wybod i ni. Nid oes angen i chi fod yn bendant, dim ond yn bryderus.
“Ffoniwch ni ar 101, neu gallwch gysylltu â Taclo'r Tacle i roi gwybod yn ddienw os byddai'n well gennych wneud hynny – ar-lein neu drwy ffonio 0800 555 111. Os oes rhywun mewn perygl uniongyrchol neu os yw trosedd yn mynd rhagddi, dylech ffonio 999 bob amser.”