Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i farwolaeth sydyn a diesboniad Mohamud Mohammed Hassan, 24 oed, ddydd Sadwrn, 9 Ionawr.
Galwodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yr Heddlu i eiddo aml-ddeiliadaeth ar Heol Casnewydd, y Rhath, ychydig ar ôl 10.30pm.
Cafodd Mr Hassan ei gadw yn y ddalfa yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd y noson flaenorol yn dilyn helynt yn yr un eiddo.
Cafodd ei arestio ar amheuaeth o dor-heddwch a chafodd ei ryddhau yn ddiweddarach heb ei gyhuddo, sy'n arferol ar gyfer y drosedd hon.
Gadawodd Mr Hassan y ddalfa am tua 8.30am fore dydd Sadwrn.
Mae ei farwolaeth wedi cael ei chyfeirio at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, am ei fod wedi marw ar ôl dod i gysylltiad â'r heddlu, ac rydym yn trefnu bod swyddog cyswllt teuluol yn ymweld â theulu Mr Hassan.
Fel rhan o ymchwiliad Heddlu De Cymru, mae deunydd camerâu CCTV a deunydd Fideo Camera a Wisgir ar y Corff eisoes wedi cael ei archwilio, a bydd yn parhau i gael ei archwilio.
Bydd hyn yn helpu gyda'r gwaith o nodi a deall yr hyn a ddigwyddodd.
Mae canfyddiadau cynnar yr heddlu yn awgrymu nad oes unrhyw faterion yn ymwneud â chamymddwyn yn codi ac na ddefnyddiwyd grym gormodol.
Rydym yn ymwybodol o'r wybodaeth helaeth sy'n cael ei rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, ond o ganlyniad i'r ymchwiliad sy'n mynd rhagddo a'r atgyfeiriad at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, ni allwn roi unrhyw sylwadau pellach ar hyn o bryd.
Disgwylir i archwiliad post mortem gael ei gynnal yfory, a hyd nes y caiff achos marwolaeth ei gadarnhau, byddem yn eich annog i beidio â dyfalu manylion y sefyllfa.