Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:29 15/01/2021
Rhoddwyd gwybod am fenyw i'w gwysio am fynd yn groes i reoliadau Covid-19 ar ôl trefnu digwyddiad awyr agored, sef protestiadau ddydd Mawrth a dydd Mercher, a ddenodd dros 30 o bobl.
Diben rheoliadau Llywodraeth Cymru yw diogelu'r gymuned rhag lledaeniad Covid-19 a chymerwyd y cam hwn er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd yn ystod y pandemig byd-eang hwn.
Mae ymholiadau'n dal i fynd rhagddynt mewn perthynas â'r protestiadau a rhagwelir y caiff camau pellach eu cymryd yn erbyn unigolion eraill am fynd yn groes i reoliadau Covid-19 a/neu droseddau eraill.