Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:50 12/01/2021
Mae gwerth mwy na £6,000 o ddirwyon wedi'u cyflwyno i 10 o bobl a deithiodd o rannau gwahanol o'r wlad i fynd i rêf anghyfreithlon mewn cymuned yn Ne Cymru.
Cynhaliwyd y digwyddiad cerddoriaeth pedwar diwrnod heb ei drwyddedu, a oedd yn cynnwys pedwar llwyfan ac a ddenodd rhwng 3,000 a 4,000 o bobl, ym Manwen ar benwythnos gŵyl banc mis Awst y llynedd, gan dorri deddfwriaeth y coronafeirws.
Mewn gwrandawiad llys arbennig yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Llun (11 Ionawr), plediodd y canlynol yn euog i ymgynnull yn yr awyr agored gyda mwy na 30 o bobl, gan fynd yn groes i ddeddfwriaeth Coronafeirws Llywodraeth Cymru:
Wrth ddedfrydu pob un o'r diffynyddion yn unigol, dywedodd y Barnwr Rhanbarth Chris James wrthynt fod eu gweithredoedd yn teithio i'r digwyddiad yn ystod pandemig byd-eang, pan oedd cyfyngiadau clir ar waith a phan oedd “ein gwasanaethau iechyd y cyhoedd dan lawer iawn o straen” yn “gwbl anghyfrifol yn gymdeithasol”.
Wrth gyfeirio at un diffynnydd, dywedodd y barnwr: “Nod y rheoliadau yw atal lledaeniad feirws difrifol – feirws sydd wedi effeithio ar ein cenedl ac, yn wir, y byd. Eu nod oedd diogelu'r cyhoedd. [Roedd mynd i'r rêf] yn dangos diffyg parch i'r rheoliadau a diystyriaeth o'ch cyfrifoldeb cymdeithasol chi eich hun.”
Dywedwyd wrth y diffynyddion fod eu gweithredoedd unigol wedi cyfrannu at y niwed sylweddol a achoswyd i breswylwyr Banwen. Clywodd y llys na allent gysgu oherwydd y gerddoriaeth uchel a'u bod wedi gweld ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys ymddygiad ymosodol a bygythiol a sbwriel, ysgarthion a chyfarpar cyffuriau ar y strydoedd.
Cafodd yr achosion yn erbyn 10 o bobl nad oeddent yn bresennol eu gohirio tan 29 Ionawr. Mae pob un ohonynt yn wynebu'r un cyhuddiad o ymgynnull yn yr awyr agored yng Nghymru gyda mwy na 30 o bobl, yn groes i ddeddfwriaeth Coronafeirws Llywodraeth Cymru.
Bydd dyn 36 oed yn ymddangos gerbron y llys ar y dyddiad hwnnw hefyd, i wynebu cyhuddiad o ymwneud â threfnu'r digwyddiad cerddoriaeth heb ei drwyddedu.