Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae enw dyn 55 oed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar draffordd yr M4 yn ystod oriau mân y bore ddydd Mercher 6 Ionawr, wedi cael ei gyhoeddi, sef Martin Crowden, yn wreiddiol o ardal y Tyllgoed ac a oedd bellach yn byw yng Nghaerffili.
Roedd Mr Crowden yn cerdded pan gafodd ei daro gan gerbyd nwyddau trwm.
Mae gwraig Martin, Maxine, wedi talu teyrnged iddo, gan ddweud:
“Mae'n amhosibl cyfleu mewn ychydig eiriau yr effaith y mae colli Martin wedi ei chael arnom fel teulu.
“Roedd yn ŵr cariadus, yn dad i ddwy o ferched, yn frawd ac yn ffrind da i gymaint o bobl. Ni wnaethom fyth ddisgwyl ei golli mor sydyn, ac rydym ar goll yn llwyr hebddo.
“Rydym wedi cael cyfle i hel atgofion melys amdano ac rydym yn gwenu wrth feddwl am ei “symudiadau dawns doniol” neu ei jôcs “gwael” – roeddem yn arfer chwerthin cyn iddo hyd yn oed orffen ei jôcs am ein bod yn gwybod pa mor wael y byddent.
“Roedd wrth ei fodd yn gwylio Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd neu'n gwrando ar gerddoriaeth o'r 80au.
“Bydd pob un ohonom yn gweld ei eisiau'n ofnadwy ac mae ei golled wedi cael effaith enfawr ar y teulu cyfan.
“Fodd bynnag, mae'r caredigrwydd a'r gefnogaeth gan bobl wedi bod yn syfrdanol, a byddwn yn ddiolchgar am hynny am byth.
“Yn olaf, hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl wasanaethau brys a geisiodd helpu Martin.”
Digwyddodd y gwrthdrawiad am tua 3.45am ddydd Mercher, 6 Ionawr, ar ffordd gerbydau traffordd yr M4 tua'r gorllewin, rhwng cyffyrdd 30 a 32, Caerdydd.
Mae swyddogion Heddlu De Cymru yn parhau i alw ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu sydd ag unrhyw ddeunydd fideo dashfwrdd, i gysylltu â nhw ar 101 gan ddyfynnu'r cofnodrif 2100005200.