Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar yr A465 nos Lun (11 Ionawr) wedi talu teyrnged iddo.
Bu farw Jac Williams o Dreherbert pan wnaeth y Ford Fiesta gwyn roedd yn ei yrru adael y ffordd gerbydau wrth iddo deithio tua'r gogledd rhwng Glyn-nedd a Hirwaun tua 4.50pm.
Mewn teyrnged i'r dyn 19 oed, dywedodd ei deulu: “Nid oes geiriau i ddisgrifio pa mor bwysig oedd Jac i ni fel teulu, ac mae'r ychydig ddyddiau diwethaf wedi dangos iddo gyffwrdd bywydau pawb oedd yn ei adnabod yn fwy nag yr oeddem wedi sylweddoli.
“Roedd Jac yn ffrind i bawb, a'i hoff beth yn y byd oedd codi gwên ar wynebau pobl. Roedd yn gawr addfwyn â chalon aur; mae'r byd hwn yn lle gwaeth hebddo.
“Roedd gan Jac ddyfodol disglair o'i flaen. Roedd yn hoff iawn o bêl-droed, yn arbennig tîm Abertawe, ac roedd yn gôl-geidwad talentog. Un o'r cyflawniadau roedd fwyaf balch ohonynt oedd cael ei ddewis i chwarae i dîm Clybiau Bechgyn a Merched Cymru. Fodd bynnag, nid oedd hynny yn ddim byd o gymharu â'i falchder pan aned mab, Oli-John, iddo a'i gariad Shania.
“Er ein bod yn parhau i geisio dod i delerau â'r hyn a ddigwyddodd, rydym wedi ein synnu gan y cariad a'r cymorth a gawsom o aelodau o'r gymuned. Mae darllen y negeseuon a chlywed atgofion pobl eraill am Jac wedi bod yn gysur mawr i ni dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, ac rydym yn gobeithio rhannu'r rhain ag Oli-John yn y dyfodol, fel y bydd ef hefyd yn gwybod cymaint roedd pobl yn caru ei dad.”
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau'r gwrthdrawiad ac mae swyddogion yn apelio ar unrhyw dystion nad ydynt wedi siarad â'r heddlu eto i gysylltu â nhw.
Maent hefyd yn awyddus i glywed gan unrhyw un a oedd y teithio yn yr ardal ar y pryd ac a welodd y cerbyd cyn y gwrthdrawiad, neu a allai fod â deunydd fideo o gamera dashfwrdd i a allai helpu gyda'r ymchwiliad.
Cysylltwch â 101 gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2100011889.