Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:30 22/01/2021
Mae teulu dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd osgoi A4063 Sarn wedi talu teyrnged iddo.
Bu farw Byron Jeanes yn y fan a'r lle ar ôl iddo fod mewn gwrthdrawiad â BMW ychydig cyn 5.45am ddydd Mercher (20 Ionawr).
Mewn teyrnged i'r dyn 49 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, dywedodd ei deulu: “Rydym yn torri ein calonnau, a byddwn yn gwerthfawrogi'r amser y gwnaethom ei dreulio gyda'n gilydd a'r atgofion hyfryd.
“Roedd Byron yn fab, yn ŵr, yn frawd, yn frawd yng nghyfraith, yn wncl ac yn hen wncl i deulu cariadus a bydd pawb yn gweld ei eisiau'n fawr.
“Bu Byron yn gweithio i'r awdurdod lleol am y 30 mlynedd diwethaf ac roedd ei gydweithwyr fel ail deulu iddo. Roedd lawer o bobl yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn adnabod Byron yn dda a byddai'n gwneud popeth o fewn ei allu i helpu unrhyw un mewn angen. Nid oedd dim yn ormod o drafferth.
“Roedd Byron yn hoffi cael hwyl a gellid dibynnu arno bob amser i godi'ch calon ble bynnag yr oedd; roedd e'n gymeriad a hanner.
“Roedd wrth ei fodd â cherddoriaeth, ffilmiau a chwmni pobl eraill, ond roedd hefyd yn ddyn tawel, caredig a thyner, a oedd yn gofalu am ei rieni oedrannus yn eu cyfeiriad cartref.
“Roedd Byron yn gwneud ffrindiau yn hawdd ble bynnag roedd ef a'i wraig Michelle yn teithio – roeddent bob amser yn gadael gyda ffrindiau ac atgofion newydd.
“Mae'r teulu'n ddiolchgar am y negeseuon cydymdeimlo a gafwyd eisoes ac yn gofyn ein bod bellach yn cael amser i alaru.”
Mewn teyrnged arall, dywedodd ei gydweithwyr, : “Roedd Byron yn aelod uchel ei barch a gweithgar o'n tîm glanhau. Treuliodd tua 13 mlynedd fel Gweithredwr Glanhau Tref Pen-y-bont ar Ogwr, lle roedd yn boblogaidd gyda busnesau a siopwyr lleol. Roedd ei waith o'r safon uchaf gan ei fod yn ymfalchïo mewn gwneud ‘gwaith da’.
“Roedd ei ffrindiau a'i gydweithwyr yn gyfarwydd iawn â'i lygad craff ac ar gadw at gamau iechyd a diogelwch.
“Byddai'n aml yn cyfarch pobl yn wên o glust i glust a sylw hwyliog neu ddau. Mae colled fawr ar ei ôl ac mae tristwch mawr yn sgil ei farwolaeth.”
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad.
Mae dyn 28 oed, a gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, wedi cael ei ryddhau o dan ymchwiliad.
Mae swyddogion yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu'r eiliadau cyn hynny, ac unrhyw un â deunydd fideo dashfwrdd neu ffôn symudol a allai helpu, i ffonio 101, gan ddyfynnu digwyddiad 2100021904.