Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:47 20/01/2021
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i leoliad gwrthdrawiad difrifol ar yr A4063 ger Gwasanaethau Sarn am 5.45am heddiw (dydd Mercher, 20 Ionawr).
Bu BMW 1 Series du, a oedd yn teithio i fyny'r rhiw rhwng cylchfan Abercynffig a chyffordd 36 yr M4, mewn gwrthdrawiad â cherddwr.
Bu farw'r cerddwr yn y fan a'r lle. Rhoddwyd gwybod i'w deulu sy'n cael cymorth gan swyddogion cyswllt sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol.
Cafodd y dyn a oedd yn gyrru'r BMW ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus ac mae yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Cafodd cerbyd arall, sef Suzuki Swift gwyn, ei ddifrodi o ganlyniad i'r gwrthdrawiad. Ni chafodd teithwyr y cerbyd hwnnw unrhyw anafiadau.
Mae swyddogion ymchwilio i wrthdrawiadau yn y lleoliad o hyd ac mae’r ffordd yn debygol o barhau i fod ar gau i’r ddau gyfeiriad am gyfnod. Cynghorir modurwyr i osgoi'r ardal ac i ddefnyddio llwybrau amgen.
Gofynnir i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu'r eiliadau cyn hynny, gysylltu â'r heddlu drwy 101, gan ddyfynnu digwyddiad 112 20 Ionawr.
Hoffai swyddogion glywed hefyd gan unrhyw un sydd ag unrhyw ddeunydd fideo o gamera dashfwrdd, neu ffôn symudol a allai gynorthwyo gyda'r ymchwiliad.