Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae enw'r wraig a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar yr M4 yn ystod oriau mân y bore ddydd Sadwrn, wedi cael ei gyhoeddi, sef Suzanne Regan, 51, o Gastell-nedd.
Mae teulu Suzanne wedi cyhoeddi'r deyrnged ganlynol iddi: “Mae marwolaeth sydyn ein mam, partner, chwaer, merch a mam-gu gariadus wedi bod yn ergyd drom i ni fel teulu.
“Mae ei marwolaeth drasig wedi peri tristwch i'w holl nithod, ei neiod a'i theulu estynedig ac rydym ni fel teulu yn dal i ddod i delerau â'r hyn a ddigwyddodd.”
Talodd merch Suzanne, Amy Preddy, hefyd deyrnged iddi gan ddweud: “Roedd mam yn berson cariadus ac annwyl ac yn meddwl y byd o'i hwyres fach Ivy-Rose, a oedd yn gannwyll ei llygad. Rwy'n hynod o falch fod mam wedi cael y cyfle i gwrdd â fy merch, Ivy-Rose, a byddaf yn trysori'r atgofion hynny am byth.
“Mae fy nghalon wedi torri'n llwyr ac ni allaf ddychmygu bywyd hebddi.
“Mam, rwy'n addo gofalu am Ivy-Rose am byth a rhoi digon o gariad ar ran y ddwy ohonom iddi.
“Roedd fy mam yn gymorth enfawr i mi a phrin y gadawodd fy ochr dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Mae ei chariad a'i chefnogaeth barhaus wedi fy ngalluogi i ddatblygu fel y person ydw i heddiw.
“Byddaf yn dy garu di am byth, mam. Ti yw fy ffrind gorau ac wn i ddim sut y gallaf fyw hebddot ti – ond mae'n rhaid i mi gario ymlaen er lles Ivy-Rose.’’
Dywedodd ei phartner, Lyndsey Rees a rhieni a theulu Suzanne: “Wyddon ni ddim sut y gallwn ni gario ymlaen heb fenyw mor brydferth, gofalgar a chariadus, ond down at ein gilydd fel teulu i gofio am yr holl atgofion da a'u trysori am byth.”
Bu farw Suzanne Regan ar ôl i'w char, Suzuki SX4 du, wrthdaro â'r rhwystr ar gyffordd 44 traffordd yr M4 tua'r gorllewin am tua 5.00am fore dydd Sadwrn.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw un a fu'n dyst i'r digwyddiad neu'r ffordd roedd y car yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad ac sydd heb gyflwyno eu hunain i'r heddlu eto, i gysylltu ar 101 a dyfynnu'r cofnodrif 2100017293.