Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:57 18/01/2021
Roedd egin ffotograffydd, gwesteion mewn parti datgelu rhyw babi a dyn a oedd wedi gwrthod hunanynysu gyda'i wraig a gafodd canlyniad prawf positif ar gyfer COVID-19 ymhlith 90 o bobl a gafodd eu dirwyo gan Heddlu De Cymru y penwythnos hwn.
Er bod Cymru gyfan o dan gyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 o hyd, clywodd yr heddlu am fwy na 442 o achosion posibl o dorri rheolau COVID-19.
Er bod llawer o'r rhain yn llawn bwriadau da ond nad arweiniodd at achosion o dorri'r rheolau, bu'n rhaid i swyddogion roi dirwy i nifer o bobl.
Yn eu plith roedd y canlynol:
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymgysylltu â'n cymunedau er mwyn annog pobl i gydymffurfio â deddfwriaeth y coronafeirws Llywodraeth Cymru, ac mae ein timau yn cynnal patrolau rhagweithiol rheolaidd i orfodi'r rheolau lle bo angen.
Yn ystod y penwythnos hwn yn unig, cynhaliodd Tîm Plismona yn Gymdogaeth Gŵyr ymgyrch mewn meysydd parcio ym Mae Langland, Bae Bracelet a Bae Cas-wellt, gan stopio 143 o geir dim ond mewn tair awr. Roedd y mwyafrif helaeth o'r bobl wedi teithio heb esgus rhesymol, gan arwain at gymryd camau gorfodi pellach. Ac ym Mhenarth, bu'n rhaid i swyddogion gau ffordd i wasgaru torfeydd a chynnal gwiriadau.
Hefyd, sefydlwyd Timau Gorfodi ar y Cyd (sy'n cynnwys swyddogion yr heddlu a staff cynghorau) ym mhob un o'r saith awdurdod lleol ac maent yn parhau i dargedu ardaloedd sy'n peri llawer o bryder.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd, Andy Valentine: “Mae cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 wedi bod ar waith ers cyn y Nadolig ac mae'r ddeddfwriaeth yn glir. Ni ddylai mwy nag un aelwyd fod yn cymysgu, boed hynny y tu fewn neu'r tu allan, a dim ond am nifer cyfyngedig o resymau y dylai pobl fod yn gadael eu cartrefi, megis siopa am hanfodion.
“Er y caniateir i ymarfer corff ac fe'ch anogir i chi wneud hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir nad ystyrir ei bod yn rhesymol i chi deithio er mwyn ymarfer corff. Felly, mae gweld dwsinau o geir ym meysydd parcio ardaloedd o harddwch eto y penwythnos hwn yn rhwystredig ac yn siomedig.
“Gwelodd ein swyddogion rai achosion difrifol o dorri'r rheolau y penwythnos hwn, gan arwain at roi cosbau penodedig.
“Gwn fod y cyfyngiadau'n anodd ond rydym yn parhau i fod yng nghanol argyfwng iechyd difrifol iawn, ac mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth helpu i arafu lledaeniad y coronafeirws a helpu i leddfu'r pwysau ar ein GIG.
“Dylai'r rheini nad ydynt yn fodlon ymddwyn yn gyfrifol drwy dorri'r rheolau'n fwriadol ddisgwyl wynebu camau gorfodi.”