Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd Heddlu De Cymru yn parhau i ddefnyddio pwerau ychwanegol i gynnal gwiriadau ar hap ar gerbydau, yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i roi Cymru gyfan o dan gyfyngiadau coronafeirws Lefel Rhybudd 4.
O dan Lefel Rhybudd 4, bydd disgwyl i'r cyhoedd aros gartref a pheidio â theithio heb esgus rhesymol.
Er mwyn cefnogi'r ymdrech genedlaethol i helpu i arafu lledaeniad y feirws, a helpu i orfodi'r cyfyngiadau, rhoddwyd awdurdod i'n swyddogion stopio unrhyw gerbyd sy'n teithio yn ardal yr heddlu.
Caiff gwiriadau eu cynnal er mwyn canfod y rheswm dros deithio.
Bydd ein swyddogion yn parhau i ddilyn y dull cenedlaethol o ymgysylltu â'r cyhoedd, egluro'r cyfyngiadau ac annog cydymffurfiaeth wirfoddol. Fodd bynnag, gall y rheini y credir eu bod yn amlwg yn torri'r rheolau ddisgwyl wynebu camau gorfodi.
Daethpwyd â'r pŵer i rym o 7am ddydd Mawrth, 22 Rhagfyr tan ddydd Llun, 4 Ionawr i ddechrau, ac mae bellach wedi cael ei ymestyn i 9am dydd Llun, Ionawr 11.