Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
A ninnau'n croesawu 2021 a Chymru ar Lefel Rhybudd 4 o hyd, mae Heddlu De Cymru, yn annog y cyhoedd i wneud y peth iawn a chadw cymunedau'n ddiogel.
Gyda'r cyfraddau heintio yn parhau i fod yn uchel iawn ledled y rhanbarth, mae'r lefel uchaf o gyfyngiadau Llywodraeth Cymru ar waith.
Ar lefel rhybudd 4, mae'n rhaid i chi wneud y canlynol:
Drwy gydol mis Rhagfyr, mae Heddlu De Cymru wedi parhau â’i ddull plismona o esbonio’r rheolau, annog pobl i gydymffurfio â'r rheolau a chymryd camau gorfodi pan fetho popeth arall yn unig, pan fydd unigolion wedi mynd ati'n fwriadol i dorri'r rheolau.
Rhoddwyd pwerau newydd i'r heddlu i gynnal gwiriadau ar hap ar gerbydau. O dan Lefel Rhybudd 4, disgwylir i'r cyhoedd aros gartref a pheidio â theithio heb esgus rhesymol. Er mwyn cefnogi'r ymdrech genedlaethol i helpu i arafu lledaeniad y feirws, a helpu i orfodi'r cyfyngiadau, rhoddwyd awdurdod i'n swyddogion stopio unrhyw gerbyd sy'n teithio yn ardal yr heddlu.
Cynhaliwyd gwiriadau ar gyfanswm o 941 o gerbydau ers 23 Rhagfyr, pan ddechreuodd ymgyrch i adnabod y rhai a oedd yn teithio yn ardal Heddlu De Cymru heb esgus cyfreithlon neu resymol. Bwriedir i'r ymgyrch hon barhau tan o leiaf ddydd Llun, 11 Ionawr, 2021.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Claire Evans o Heddlu De Cymru: “Mae'r rheolau'n glir iawn na ddylech gymysgu ag aelwydydd eraill. Mae ein partneriaid iechyd wedi nodi'n glir mai trosglwyddo'r feirws dan do yw un o'r risgiau mwyaf o hyd. Felly, er y byddwn yn parhau i weithio gyda'n cymunedau er mwyn eu helpu i ddeall y rheolau, byddwn hefyd yn cymryd camau gorfodi yn yr ardaloedd hynny lle rydym yn gweld achosion amlwg neu fynych o dorri'r rheolau.
“Ni chaniateir partïon tŷ, ymgynnull na theithio i ymarfer corff, ac os byddwch yn gwneud unrhyw rai o'r pethau hyn, rydych yn wynebu risg o gael dirwy.”
Gallwn gadarnhau y cyflwynwyd 430 o hysbysiadau cosb benodedig yn ystod mis Rhagfyr, ond cyflwynwyd mwy na dwywaith gymaint â hynny o rybuddion hefyd.
Nos Galan, cafodd yr heddlu dros 240 o alwadau yn ymwneud â thorri rheolau COVID-19 – aeth swyddogion yr heddlu i gynifer o’r rhain ag y gallent yn ystod yr hyn a fu'n noson brysur a chyflwynwyd cyfanswm o 43 o hysbysiadau cosb benodedig. Ymchwilir i achosion posibl eraill o dorri'r rheolau dros y dyddiau nesaf.
Ychwanegodd yr Uwch-arolygydd Evans: “Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am eu cymorth ac am yr aberth y mae cymunedau ledled De Cymru wedi'u gwneud yn ystod ail don y pandemig.
“Mae'r cyfyngiadau sydd ar waith mewn grym am reswm ac mae'n bwysicach nag erioed i weithredu mewn ffordd gyfrifol. Yn lle meddwl am yr hyn y gallwch ei wneud heb gael eich cosbi, ystyriwch yr hyn y dylech ei wneud i gadw eich hun a'ch teulu'n ddiogel.”