Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:43 16/01/2021
Rydym yn annog y cyhoedd i fod yn wyliadwrus yn dilyn galwad ffôn dwyllodrus a dwyllodd dyn oedrannus i drosglwyddo miloedd o bunnau.
Cysylltodd rhywun a'r dioddefwr, sy'n byw yng Nghaerdydd, yn honni ei fod yn gweithio i'r heddlu yn Lloegr.
Dywedwyd wrtho ei fod wedi dioddef twyll a bod arian ffug wedi cael ei drosglwyddo i'w gyfrif yr oedd angen ei symud oddi yno.
Yn ystod cyfnod o wythnos, trosglwyddodd y dioddefwr filoedd o bunnau yn ddiarwybod i gyfrif banc y twyllwr.
Rhoddwyd gwybod am ddigwyddiad tebyg gan rywun yn Abertawe ac mae pryderon y gall eraill fod wedi cael eu targedu.
Anogir pobl i fod yn wyliadwrus, ac i ofalu am berthnasau agored i niwed.
Dylai pawb sy'n amau eu bod nhw neu berthynas iddynt wedi cael ei dargedu ffonio 101 neu Action Fraud ar 0300 123 2040.