Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn rhybuddio’r cyhoedd i fod yn wyliadwrus ar ôl i nifer o bobl sôn bod rhywun yn honni ei fod yn swyddog heddlu wedi cysylltu â nhw. Mae’r person hwnnw wedyn yn defnyddio stori fanwl mewn ymgais i geisio annog y dioddefwr i roi symiau sylweddol o arian iddo.
Mewn rhai achosion, rhoddwyd gwybod i ddioddefwyr bod eu cardiau wedi’u clonio neu eu bod wedi cael eu twyllo, a gofynnwyd iddynt ddarparu eu manylion banc. Yn ystod galwadau eraill, cafodd dioddefwyr eu hysbysu bod aelod o’r teulu wedi’i arestio, a soniwyd wrth eraill am fynd i beiriannau codi arian a chodi miloedd o bunnoedd neu brynu eitemau drud i’w trosglwyddo i ‘gludwr’ a fyddai’n casglu’r arian o’u cartref.
Ym mhob un achos, roedd y person a oedd yn galw yn honni ei fod yn dditectif ac roedd mor argyhoeddiadol nes i rai o’r bobl y cysylltwyd â nhw drosglwyddo’r arian neu’r manylion banc y gofynnwyd amdanynt.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Paul Raikes:
“Mae’r sgamwyr hyn yn llawn perswâd ac maent yn aml yn llwyddo i dwyllo pobl i roi symiau mawr o arian iddynt.
“Mae llawer o’r dioddefwyr yr wythnos hon wedi bod yn oedrannus, ond y gwir amdani yw y gall unrhyw un gael ei dargedu gan y sgamwyr hyn a byddwn i’n annog pawb i fod yn wyliadwrus a siarad â ffrindiau a theulu am y sgamiau. Po fwyaf o ymwybyddiaeth fydd ohonynt, y lleiaf llwyddiannus fydd y twyllwyr. Dylech roi gwybod i ni am unrhyw beth amheus yn syth.”
Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Paul Giess o’r Uned Troseddau Economaidd:
“Er bod llawer o’r dioddefwyr yn yr achosion hyn wedi bod yn oedrannus neu’n agored i niwed, ni allaf bwysleisio digon pa mor soffistigedig ac effeithiol yw’r sgamwyr hyn, a gallai unrhyw un ohonom gael ein twyllo os nad ydym yn wyliadwrus.
“Yn syml, fy neges i’r cyhoedd yw na fyddai’r heddlu nac unrhyw sefydliad cyfreithlon arall o ran hynny byth yn cysylltu â chi yn y ffordd hon. Mae pob galwad o’r fath yn sgam, a dylai’r person sy’n derbyn yr alwad roi’r ffôn i lawr cyn gynted â phosibl.”
Er mwyn lleihau’r risg o gael eu twyllo, mae’r cyhoedd yn cael eu hannog i gofio’r awgrymiadau syml hyn:
Gwnewch y canlynol:
Peidiwch â gwneud y canlynol:
Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i dwyllo gan sgamiwr roi gwybod amdano drwy ffonio 101, neu Action Fraud ar 0300 123 2040.