Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:59 22/12/2020
Cafodd Laurent Mondo, 26, o Grangetown ei ddedfrydu i naw mlynedd a phedwar mis yn y carchar yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun 21 Rhagfyr ar ôl pledio'n euog i gynllwynio i gyflenwi crac cocên a heroin.
Cafodd Mondo ei arestio fel rhan o Ymgyrch Crater, sydd wedi arwain at arestio 432 o unigolion yr amheuir eu bod yn werthwyr cyffuriau mewn 20 mis ar ôl sefydlu tîm dynodedig i fynd i'r afael â chyflenwi cyffuriau yng Nghaerdydd. Atafaelwyd gwerth mwy na £2.5 miliwn o gyffuriau ac arian parod.
Dywedodd Ditectif Uwcharolygydd Esyr Jones:
“Mae Ymgyrch Crater wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth amharu ar gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a'r trais sy'n gysylltiedig â'r math hwn o droseddu; troseddu sy'n peri diflastod ac yn torri calonnau cymunedau ledled Caerdydd.
“Ers i Ymgyrch Crater lansio ym mis Ebrill 2019, rydym wedi gweld symiau mawr o gyffuriau ac arfau yn cael eu tynnu oddi ar ein strydoedd a dedfrydau sylweddol yn cael eu cyflwyno gan y llysoedd.
“Mae'r delwyr cyffuriau hyn – y mae'r mwyafrif ohonynt yn dod o'r ardaloedd lle maent yn gwerthu eu nwyddau – yn camfanteisio ar fregusrwydd defnyddwyr cyffuriau dim ond er mwyn elwa'n ariannol.
“Roedd dyfodol disglair i Laurent Mondo yn y byd chwaraeon ac fel cerddor, ond dewisodd defnyddio ei statws fel artist cerddoriaeth grime poblogaidd i hyrwyddo ac annog delio mewn cyffuriau ar strydoedd Caerdydd o dan gysgod mynegiant artistig, gan gamfanteisio ar bobl ifanc a phobl sy'n agored i niwed yn yr un cymunedau lle cafodd ei fagu.
“Roedd gan Mondo'r cyfleoedd a'r talent i lwyddo a bod yn fodel rôl i eraill ond, yn hytrach, penderfynodd dilyn llwybr o gamfanteisio a throseddoldeb a oedd wedi'i arwain ledled y wlad i fodloni ei drachwant.
“Mae'r ddedfryd hon yn anfon neges glir i eraill sy'n ystyried y ffordd hon o fyw, sef na fydd yr heddlu, y llysoedd ac, yn bwysicaf oll, cymunedau Caerdydd yn goddef y camfanteisio a'r trais y mae cyffuriau dosbarth A yn eu cyflwyno ar ein strydoedd.
“Rydym yn ymrwymedig i weithio gyda chymunedau Caerdydd er mwyn atal plant a phobl ifanc rhag cael eu tynnu i mewn i fyd llawn trais a chamfanteisio a, lle y bo'n bosibl, byddwn yn olrhain y rheini, fel Mondo, sy'n dewis camfanteisio a pheri niwed i eraill, yn ddi-baid.
“Rydym yn diolch i gymunedau Caerdydd am eu cymorth parhaus ac yn annog y cyhoedd i weithio gyda ni er mwyn sicrhau bod ein prifddinas yn lle diogel fyw a gweithio ynddi ac ymweld â hi."
Anogir unrhyw un sydd ag amheuon neu wybodaeth am gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon i gysylltu â ni ar 101. Fel arall, gellir cysylltu â Taclo'r Tacle yn gwbl ddienw ar 0800 555 111.