Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn ymchwilio i ddigwyddiad yn Nhreganna, Caerdydd y bore yma, lle cafodd bachgen yn ei arddegau ei drywanu.
Galwyd y gwasanaethau brys i Broad Street ychydig ar ôl 10am ac aethpwyd â'r bachgen 17 oed i Ysbyty Athrofaol Cymru.
Nid yw ei anafiadau yn peryglu ei fywyd a rhoddwyd gwybod i'w deulu.
Cafodd bachgen 15 oed o ardal Glan yr Afon ei arestio ar amheuaeth o anafu.
Mae'r ditectifs o'r farn bod cysylltiad rhwng y digwyddiad hwn a'r trais a welwyd yng nghanol y ddinas nos Sadwrn, lle mae grwpiau o fechgyn lleol yn eu harddegau wedi targedu ei gilydd.
Mae ymholiadau a chwiliadau yn parhau yn ardaloedd Treganna, Glan yr Afon a Grangetown o'r ddinas, a daethpwyd o hyd i nifer o eitemau i'w harchwilio'n fforensig.
Yn dilyn y digwyddiad, mae Heddlu De Cymru wedi cyflwyno dau orchymyn i gadw'r cyhoedd yn ddiogel.
Mae Hysbysiad Adran 60 yn rhoi'r hawl i swyddogion stopio a chwilio unrhyw un yn ardaloedd Treganna a Grangetown:
Daeth yr Hysbysiad Adran 60 i rym o 11am heddiw (dydd Mercher, 25 Tachwedd) a bydd yn para tan 9pm heno.
Mae'r hysbysiad yn rhoi'r awdurdod i unrhyw gwnstabl mewn lifrai, yn yr ardal honno, arfer y pwerau o dan Adran 60 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994, sef i wneud y canlynol:
Nod Adran 60 yw atal trais difrifol, canfod offer peryglus neu ddal unigolion sy’n cario arfau.
Mae gorchymyn gwasgaru Adran 35 hefyd wedi cael ei gyflwyno ar gyfer Treganna, Glan yr Afon a Grangetown.
Nod gorchmynion gwasgaru Adran 35 o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yw sicrhau diogelwch y cyhoedd a lleihau'r risg o unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol neu anhrefn yn yr ardal hon.
Mae'r gorchymyn hwn, sydd ar waith am gyfnod o 24 awr, yn rhoi'r pŵer i swyddogion mewn lifrai wahardd unigolyn o ardal am hyd at gyfnod o 48 awr drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Esyr Jones:
“Yn naturiol, mae braw a phryder ar gerdded yn y gymuned unwaith eto pan geir digwyddiad o'r fath.
“Mae unigolyn wedi cael ei arestio, ac mae ymholiadau'n parhau er mwyn arestio mwy o bobl sydd o dan amheuaeth.
“Nid ymosodiadau digymell yw'r achos o drywanu a gafwyd heddiw, na'r anhrefn dreisgar a gafwyd yng nghanol y ddinas nos Sadwrn. Maent yn cynnwys grwpiau o fechgyn lleol yn eu harddegau yn targedu ei gilydd, ac rydym yn apelio am wybodaeth gan y gymuned.
“Rydym yn annog teuluoedd ac arweinwyr y gymuned i siarad â'u plant am beryglon troseddau'n ymwneud â chyllyll, a chysylltu â Heddlu De Cymru os byddant yn amau bod eu plentyn wedi bod yn rhan o'r digwyddiad hwn, neu unrhyw ddigwyddiad arall sy'n ymwneud â chyllyll.
“Drwy gymryd y camau hyn, gallech achub bywyd.”
Fel rhan o'r ymchwiliad ehangach i ddigwyddiadau diweddar, byddwn yn ymweld â theuluoedd ac yn cynnig cymorth iddynt er mwyn helpu i atal pobl ifanc rhag cymryd rhan mewn trais difrifol a throseddau'n ymwneud â chyllyll.
Byddwn hefyd yn cynnal cyfarfodydd ag arweinwyr cymunedol.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad y bore 'ma ffonio 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2000429023, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.
Fel arall, gallwch anfon neges uniongyrchol atom drwy'r cyfryngau cymdeithasol.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.