Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:33 11/08/2020
Mae Heddlu De Cymru yn croesawu dyfarniad y Llys Apêl, er nad oedd erioed wedi herio hawl Mr Bridges i ddwyn achos o’r fath. Ni fydd yr heddlu yn apelio yn erbyn dyfarniad heddiw.
Mae'r heddlu wedi arwain y ffordd wrth ddatblygu technoleg adnabod wynebau fel rhan o raglen trawsnewid yr heddlu, a ariennir gan y Swyddfa Gartref, gan dorri tir newydd wrth ddiogelu'r cyhoedd a dod â throseddwyr o flaen eu gwell.
Dywedodd y Prif Gwnstabl, Matt Jukes:
“Mae rhoi ein defnydd arloesol o'r dechnoleg hon ar brawf gan y llysoedd wedi bod yn gam pwysig i'w groesawu yn ei datblygiad. Rwy'n hyderus bod y dyfarniad hwn yn un y gallwn weithio gydag ef. Ein blaenoriaeth o hyd yw diogelu'r cyhoedd, ac mae hynny'n mynd law yn llaw ag ymrwymiad i sicrhau eu bod yn gallu gweld ein bod yn defnyddio technoleg newydd mewn ffordd sy'n gyfrifol ac yn deg.
“Ar ôl i'r Llys Rhanbarthol gymeradwyo ein hymagwedd tuag at y materion hyn ar y dechrau, a nawr bod y Llys Apêl wedi craffu ymhellach ar bwyntiau penodol, byddwn yn talu sylw o ddifrif i'w dyfarniad. Mae dyfarniad y Llys Apêl yn helpu i bwysleisio nifer cyfyngedig o feysydd polisi sydd angen y sylw hwn. Mae ein polisïau eisoes wedi esblygu ers y cynlluniau peilot yn 2017 a 2018 a ystyriwyd gan y llysoedd, ac rydym bellach wedi cynnal trafodaethau â'r Swyddfa Gartref a Chomisiynydd Camerâu Gwyliadwriaeth ynghylch yr addasiadau pellach y dylem eu gwneud ac unrhyw ymyriadau eraill sy'n ofynnol.
“Rydym eisoes wedi canolbwyntio ymhellach ar un pryder. Wrth i'n gwaith gyda thechnoleg adnabod wynebau ddatblygu, mae pryder rhyngwladol ynghylch rhagfarn bosibl mewn algorithmau wedi tyfu. Rydym yn falch bod y llys wedi cydnabod nad oedd tystiolaeth o duedd na gwahaniaethu wrth i ni ddefnyddio'r dechnoleg. Ond mae cwestiynau am hyder y cyhoedd, tegwch a thryloywder yn hollbwysig, ac mae'r Llys Apêl yn glir bod angen gwneud rhagor o waith er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg y byddwn yn mynd yn groes i'n dyletswyddau ynghylch cydraddoldeb. Yn 2019, comisiynwyd dadansoddiad academaidd o’r cwestiwn hwn ac, er bod y pandemig presennol wedi tarfu ar ei gynnydd, mae’r gwaith hwn wedi ailgychwyn a bydd yn llywio ein hymateb i gasgliadau’r Llys Apêl.”
Er y bu rhai datblygiadau polisi ers 2018, yn enwedig yn y ffordd y mae'r dechnoleg yn cael ei defnyddio, mae Heddlu De Cymru eisoes yn gweithio gyda'r Comisiynydd Camerâu Gwyliadwriaeth, y Swyddfa Gartref, y Coleg Plismona a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu i ymgorffori penderfyniadau canllawiau gweithredol y Llys Apêl.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddatblygu a dosbarthu'r dechnoleg yn ofalus, ac mae'n ymfalchïo yn y ffaith na fu erioed arestiad anghyfreithlon o ganlyniad i ddefnyddio'r dechnoleg yn Ne Cymru.
Mae'r defnydd amser byw o dechnoleg adnabod wynebau yn ardal yr heddlu wedi arwain at arestio 61 o bobl am droseddau sy'n gynnwys lladrad a thrais, lladrad a gwarantau llys. Mae'r rhain wedi amrywio o ddigwyddiadau chwaraeon a cyhoeddus pwysig yng Nghaerdydd ac Abertawe i gefnogi gweithrediadau i fynd i'r afael â throseddoldeb.
Er enghraifft, cafodd ei ddefnyddio yn ystod digwyddiad cerddorol yng Nghaerdydd. Roedd cyngherddau tebyg mewn rhannau eraill o'r DU wedi arwain at fwy na 220 o ffonau symudol yn cael eu dwyn oddi wrth bobl a oedd yn bresennol. Cafodd tri deg o bobl y tybiwyd eu bod yn rhan o grŵp troseddau cyfundrefnol sy'n arbenigo mewn dwyn ffonau mewn digwyddiadau cerddoriaeth eu rhoi ar restr wylio, gan arwain at arestio un person am fynd gydag offer lladrata ac ni chafwyd gwybod am unrhyw achosion o ddwyn ffonau symudol.
Mae'r Dirprwy Brif Gwnstabl, Jeremy Vaughan, sef yr arweinydd plismona cenedlaethol ar dechnoleg adnabod wynebau, eisoes wedi bod yn gweithio gyda'r Swyddfa Gartref, heddluoedd ac asiantaethau eraill sy'n gorfodi'r gyfraith er mwyn ystyried sut mae technoleg adnabod wynebau yn cael ei defnyddio yn gyson ym mhob rhan o blismona ledled Cymru a Lloegr.
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Vaughan:
“Prif ddiben technoleg adnabod wynebau yw cadw'r cyhoedd yn ddiogel, ein helpu i adnabod troseddwyr a diogelu cymunedau rhag unigolion sy'n peri risg iddynt.
“Credaf y bydd y cyhoedd yn parhau i'n cefnogi i ddefnyddio pob dull a thechnoleg sydd ar gael i'w cadw'n ddiogel, ar yr amod bod yr hyn rydym yn ei wneud yn ddilys ac yn gymesur.
“Ym marn y Llys Apêl, nid oes dim sy'n tanseilio defnyddio technoleg adnabod wynebau i ddiogelu'r cyhoedd yn sylfaenol. Bydd y dyfarniad hwn ond yn atgyfnerthu'r gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo er mwyn sicrhau y gall y polisïau gweithredol sydd gennym ar waith wrthsefyll her gyfreithiol gadarn a chraffu cyhoeddus.”