Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn cydnabod diddordeb parhaus y cyhoedd ym marwolaethau Mandy Power, ei dwy ferch Katie ac Emily a'i mam Doris Dawson yng Nghlydach ym 1999. Rydym yn meddwl am eu teulu ac eraill y mae'r digwyddiadau trasig wedi effeithio arnynt.
Ddydd Iau 22 Hydref, darlledodd BBC Cymru raglen am y llofruddiaethau, sef yr ymchwiliad llofruddiaeth mwyaf a mwyaf cymhleth a gynhaliwyd erioed gan un o heddluoedd Cymru ac a arweiniodd at euogfarnu David George Morris yn dilyn achos yn Llys y Goron Abertawe. Cafodd yr euogfarn ei gwrthdroi ar apêl a chafwyd Morris yn euog eto mewn aildreial yn Llys y Goron Casnewydd ac fe’i dedfrydwyd i garchar am oes.
Roedd y rhaglen yn cynnwys cyfweliadau â dau aelod o'r cyhoedd a oedd yn honni nad oeddent wedi siarad â'r heddlu o'r blaen. Fel y byddech yn ei ddisgwyl, mae swyddogion bellach wedi siarad â'r ddau ddyn i weld pa wybodaeth sydd ganddynt. Rydym yn asesu'r wybodaeth hon yn ofalus a byddwn yn penderfynu ar ein camau nesaf maes o law.
Mae'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol wedi ystyried euogfarn Morris am y llofruddiaethau ar fwy nag un achlysur, a hynny'n fwyaf diweddar yn 2018. Yn dilyn adolygiad trylwyr o ddeunydd yr achos, penderfynodd y Comisiwn beidio â'i gyfeirio at y Llys Apêl gan na nodwyd unrhyw dystiolaeth newydd.