Stamp amser presennol: 05/02/23 00:52:04
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleolUchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainTwitterHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police_ website_ left-hand Corner_ flat White Crest

Chwilio’r wefan hon

Prif ddewislen llywio

  • Riportio

    Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Riportio camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Person sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Anghydfodau sifil
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
  • Rhoi gwybod i ni

    Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Llwythi annormal
  • Gwneud cais neu gofrestru

    Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Cais

    Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Diolchiadau a chwynion

    Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Gwneud cwyn
    • Dweud diolch
    • Adborth am y wefan
  • Eich ardal chi

Y Prif Gwnstabl Matt Jukes yn ymgymryd â rôl gyda’r Heddlu Metropolitanaidd

Cynnwys y prif erthygl

Llywio

Y diweddaraf

10:56 22/09/2020

Chief Constable Matt Jukes

Ym mis Tachwedd 2020, bydd y Prif Gwnstabl Matt Jukes yn ymgymryd â rôl Comisiynydd Cynorthwyol i’r Heddlu Metropolitanaidd, gyda chyfrifoldeb i ddechrau am raglen drawsnewid y Met.

Dywedodd y Prif Gwnstabl: 

“Ymunais â Heddlu De Cymru ddeng mlynedd yn ôl ac nid wyf wedi edrych yn ôl byth ers hynny. Mae wedi bod yn fraint aruthrol gweithio mewn uwch swyddi arwain yn yr Heddlu; fel Dirprwy Brif Gwnstabl ers 2013 ac yna fel Prif Gwnstabl o 2018 ymlaen. Yn ystod y cyfnod hwnnw, rwyf wedi gweld gofal a thosturi fy nghydweithwyr yn aml iawn yn ogystal â chryfder teulu Heddlu De Cymru.

“Mae gweithio gyda fy nghydweithwyr yn Ne Cymru a’n cymunedau wedi rhoi llawer iawn o foddhad i mi. Er gwaethaf yr heriau niferus rydym wedi’u hwynebu gyda’n gilydd, mae ein pobl wedi profi eu bod yn gallu cadw cymunedau lleol yn ddiogel a phlismona digwyddiadau rhyngwladol mawr.

“Ac mae Heddlu De Cymru wir wedi gwneud argraff arnaf. Yn sicr, bydd lle arbennig i Gymru yn fy nghalon wrth i mi symud ymlaen i ddiogelu prifddinas arall a chadw Llundain yn ddiogel.

O 7 Tachwedd 2020, bydd y Dirprwy Brif Gwnstabl Jeremy Vaughan yn Brif Gwnstabl Dros Dro, a bydd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jenny Gilmer yn Ddirprwy Brif Gwnstabl Dros Dro. Caiff swyddi interim eraill eu cyhoeddi maes o law.

Ychwanegodd y Prif Gwnstabl “Hoffwn hefyd achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’n Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Alun Michael am ei gefnogaeth ac am ei ymrwymiad i weithio gyda’n gilydd i amddiffyn nodweddion gorau Heddlu De Cymru, yn ogystal ag i hyrwyddo safbwyntiau a syniadau newydd. Ar nodyn personol, rwy’n ddiolchgar i Alun am roi ei hyder ynof a’m penodi i swydd sydd wedi bod yn fraint aruthrol ”.

Hefyd heddiw, cyhoeddodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael, ddechrau proses i benodi Prif Gwnstabl newydd cyn gynted â phosibl i olynu Matt Jukes.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael:

“Mae Matt Jukes wedi bod yn arweinydd rhagorol i Heddlu De Cymru a hoffwn ddiolch o galon iddo am y datblygiadau sylweddol rydym wedi’u gweld yn ystod ei gyfnod wrth y llyw a’r cyfeiriad cadarnhaol y mae’r heddlu’n symud iddo. Mae Heddlu De Cymru ar flaen y gad mewn cynifer o feysydd gweithgarwch, sy’n glod i Matt ac yn adlewyrchu ei arweinyddiaeth a chryfder y prif swyddogion y mae wedi’u datblygu o’i gwmpas.

“Pan benodais i Matt yn Brif Gwnstabl, gwyddwn ein bod wedi penodi’r person cywir i’n harwain drwy heriau ariannol anodd iawn ac mae’r tîm wedi parhau i ddatblygu ac addasu er mwyn wynebu a chroesawu heriau newydd. Mae wedi arwain yr heddlu ag uniondeb a phroffesiynoldeb o’r radd flaenaf, personoliaeth hynaws ac ymroddiad cadarn i gymunedau De Cymru ac wrth gefnogi’r swyddogion a’r staff sy’n gweithio’n ddiflino i’n cadw’n ddiogel ac yn hyderus. Mae ei benodiad gan Gomisiynydd yr Heddlu Metropolitanaidd yn gymeradwyaeth enfawr i Matt yn bersonol, o gael ei ddewis i ymgymryd â rôl fwy byth sydd â dimensiwn cenedlaethol, ond mae hefyd yn cydnabod safon ein gwasanaeth heddlu lleol, y gall pob un ohonom fod yn hyderus ynglŷn â’i ddyfodol. Diolch yn fawr iawn iddo, a dymuniadau gorau at y dyfodol.

“Rwy’n benderfynol o fynd ati’n gyflym i ddenu ceisiadau a phenodi Prif Gwnstabl newydd, y bydd angen iddo fod yn ddyn neu’n fenyw â’r gallu i adeiladu ar y seiliau cadarn a osodwyd gan Matt a pharhau â’r rhaglen uchelgeisiol rydym yn anelu at ei chyflawni gyda’n gilydd. Gwnaethom gyrraedd y lefel honno o uchelgais, gweledigaeth a pharhad pan ddechreuodd Matt yn y swydd yn dilyn ymddeoliad Prif Gwnstabl rhagorol arall, sef Peter Vaughan, ac rwy’n credu y gallwn wneud hynny eto. Caiff y swydd ei hysbysebu drwy bob dull sydd ar gael a byddaf yn rhoi proses ddethol heriol ar waith unwaith eto ar gyfer y penodiad.

“Bydd y broses o benodi Prif Gwnstabl newydd yn dechrau ar unwaith a bydd penodiad mor bwysig yn gofyn am broses ddethol drwyadl gyda lefel uchel o gyfraniad gan ein partneriaid a gwaith craffu drwy Banel yr Heddlu a Throseddu. Gyda’r arweinydd cywir, rwy’n hyderus y bydd tîm Heddlu De Cymru mewn sefyllfa dda i allu mynd â ni i lefel hyd yn oed yn uwch, gan weithio’n agos iawn gyda phartneriaid a chymunedau ledled De Cymru.”

Rhannu

A oes rhywbeth o'i le ar y dudalen hon?

Llywio troedyn

Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i roi profiad gwell, mwy personol i chi.

Rwy'n iawn gyda chwcis Rwyf am olygu'r cwcis

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Diolchiadau a chwynion

Partneriaid

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2023. Cedwir pob hawl.