Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:38 30/11/2020
Mae bachgen 16 oed wedi cael ei gyhuddo o feddu ar arf ymosodol a chlwyfo'n fwriadol dan adran 18.
Ymddangosodd y bachgen o Dreganna, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol oherwydd ei oedran, gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Sadwrn 28 Tachwedd, ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa ar gyfer gwrandawiad llys arall.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Broad Street yn Nhreganna yn dilyn adroddiadau bod rhywun wedi'i drywanu am tua 10am ddydd Mercher 25 Tachwedd.
Aethpwyd â bachgen 17 oed i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, gydag anafiadau nad oeddent yn peryglu ei fywyd.
Mae tri pherson arall a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad wedi cael eu rhyddhau o'r ddalfa.
Mae dau fachgen 17 a 15 oed o Grangetown a Glan yr Afon, yn y drefn honno, wedi cael eu harestio ar fechnïaeth yr heddlu.
Mae dyn 43 oed o Benarth wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad.
Mae ymholiadau yn parhau.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad y bore 'ma ffonio 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2000429023, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.
Fel arall, gallwch anfon neges uniongyrchol atom drwy'r cyfryngau cymdeithasol.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.