Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:32 11/11/2020
Yn ystod y dyddiau diwethaf, bu’n rhaid i Heddlu De Cymru gymryd camau gorfodi i ddelio â phartïon mewn tai, pobl yn ymgynnull mewn grwpiau mawr yn yr awyr agored ac achosion o dorri cyfyngiadau teithio.
Yn unol â heddluoedd ledled y DU, mae’r heddlu wedi gweithio i gynnal dull cyson o blismona drwy gydsyniad, waeth pa gyfyngiadau sydd ar waith oherwydd y coronafeirws. Er bod y mwyafrif yn parhau i chwarae eu rhan i gefnogi’r ymdrech ar y cyd i arafu lledaeniad y feirws, bu’n rhaid i swyddogion orfodi’r rheoliadau ar sawl achlysur yn ystod y cyfnod atal byr ac ar ôl hynny.
Yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf yn unig, rhoddwyd hysbysiadau i’r canlynol:
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Andy Valentine, sy’n arwain ymateb Heddlu De Cymru i’r pandemig: “Er bod y cyfnod atal byr pythefnos o hyd bellach wedi dod i ben, mae cyfyngiadau ar waith o hyd y dylai pobl gydymffurfio â nhw. Rwy’n annog pawb, fel yr wyf wedi’i wneud drwy gydol y pandemig, i barhau i chwarae eu rhan drwy wneud y peth iawn .
“Er bod rhai cyfyngiadau wedi cael eu llacio, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn parhau i ymddwyn yn gyfrifol – gan ganolbwyntio ar yr hyn y dylem ei wneud yn hytrach na’r hyn y gallwn ei wneud – er mwyn helpu i arafu lledaeniad y feirws yma yn ne Cymru ac amddiffyn ein GIG.
“Mae ein partneriaid iechyd wedi nodi’n glir mai trosglwyddo’r feirws dan do yw un o’r risgiau mwyaf o hyd. Felly, er y byddwn yn parhau i weithio gyda’n cymunedau er mwyn eu helpu i ddeall y rheolau, byddwn hefyd yn cymryd camau gorfodi yn yr ardaloedd hynny lle rydym yn gweld achosion amlwg neu fynych o dorri’r rheolau.”