Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae trefnwyr ‘cyfarfod ceir’ a ddenodd tua 170 o gerbydau i Ferthyr Tudful wedi cael ei holrhain a'u dirwyo am dorri rheoliadau'r coronafeirws.
Mae Tîm Gorfodi ar y Cyd Cwm Taf Morgannwg, sy'n cynnwys swyddogion Heddlu De Cymru a swyddogion gorfodi Cyngor Merthyr Tudful, wedi bod yn gweithio i gymryd camau gweithredu ôl-weithredol yn dilyn y cyfarfod mawr tu allan i Bentref Hamdden Merthyr Tudful ar 29 Tachwedd.
Galwyd swyddogion i'r safle – un o'r lleoliadau sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer profion torfol y coronafeirws – tua 6.30pm ar y noson, a gwelwyd cannoedd o bobl a oedd yn frwdfrydig am geir, a oedd i gyd yn torri rheoliadau Llywodraeth Cymru.
Casglwyd tystiolaeth ar fideo a wisgir ar y corff cyn i'r torfeydd wasgaru.
Ers hynny, mae'r Tîm Gorfodi ar y Cyd wedi edrych ar y fideo a gwneud nifer o ymholiadau i ddod o hyd i drefnwyr y digwyddiad, y mae chwech ohonynt bellach wedi cael hysbysiadau cosb benodedig. Mae ymholiadau pellach yn parhau hefyd, ac mae'n debygol y bydd dirwyon pellach i bobl oedd yn bresennol.
Dywedodd yr Arolygydd Plismona Lleol, Jonathan Duckham: “Dangosodd trefnwyr a mynychwyr y digwyddiad hwn diffyg ystyriaeth amlwg tuag at gyfyngiadau'r coronafeirws, a gwnaethant roi eu brwdfrydedd dros geir uwchben yr angen i leihau'r risg iddynt hwy eu hunain a phobl eraill.
“Mae'r ffaith bod y cyfarfod wedi cael ei drefnu yn yr union leoliad lle mae profion torfol y coronafeirws yn digwydd oherwydd bod y sefyllfa leol mor ddifrifol hefyd yn anghredadwy.
“Rhybuddiwyd unigolion ar y noson y byddai camau gweithredu ôl-weithredol yn dilyn, ac rydym yn gobeithio y bydd y rhai a oedd yn rhan o'r digwyddiad yn meddwl yn ofalus cyn mynychu unrhyw ddigwyddiadau eraill o'r fath tra byddwn yn parhau i fod yng nghanol pandemig.
“Achosodd y cyfarfod lawer o bryder yn lleol, ac rwy'n gobeithio bod hyn hefyd yn rhoi tawelwch meddwl i'n cymunedau lleol ein bod yn gweithredu ar ôl clywed eu hadroddiadau a'u pryderon ac y byddwn yn cymryd camau lle caiff y rheoliadau eu torri yn amlwg neu dro ar ôl tro.”
Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Merthyr Tudful, Kevin O'Neill: “Rydym yn croesawu'r camau gweithredu prydlon a gymerwyd gan ein partneriaid yn yr heddlu i ddelio ag ymddygiad sy'n hollol annerbyniol. Byddwn yn parhau i weithio gyda Heddlu De Cymru a Phartneriaid Diogelwch Cymunedol eraill i weld pa fesurau ataliol y gallwn eu rhoi ar waith i rwystro digwyddiadau o'r fath eto.
“Nid ydym am labelu na rhoi'r bai ar yr holl bobl ifanc hynny sy'n rhannu diddordeb mewn chwaraeon moduro neu ddiddordebau eraill sy'n gysylltiedig â cherbydau modur nad ydynt yn torri'r gyfraith.
“Mae trigolion yn ward y dref wedi dioddef niwsans sŵn, goryrru ac ymddygiad gwrthgymdeithasol am y tair blynedd diwethaf o leiaf ac rwy'n hyderus bod bellach gennym gronfa ddata o'r rhai a aeth i'r digwyddiad. Rwy'n cefnogi adnabod troseddwyr yn gyflym a'r camau gweithredu cyflym a phriodol sy'n cael eu cymryd.”