Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:00 20/11/2020
Mae'r fyfyrwraig 18 oed a fu farw ar ôl cwympo i'r llawr mewn neuadd breswyl yng Nghaerdydd ar y penwythnos wedi cael ei henwi fel Megan Pollitt o Rugby yn Swydd Warwig.
Mae teulu Megan wedi cyhoeddi'r deyrnged ganlynol.
“Bu farw Megan Pollitt, Meg i'w theulu a'i ffrindiau, yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ddydd Llun 16 Tachwedd.
“Roedd Meg yn rhoi o'i hamser i bawb o'i chwmpas ac roedd hi bob amser yn gefn i eraill. Dechreuodd astudio'r gyfraith yng Nghaerdydd yn ddiweddar ac roedd hi'n llawn breuddwydion a dyheadau.
“Hyd yn oed ar ôl iddi symud i ffwrdd, roedd Meg yn dal i gadw mewn cysylltiad agos â theulu a ffrindiau, gan rannu straeon a hwyl drwy ymweliadau a galwadau ffôn.
“Byddwn ni'n gweld eisiau ei gwên hyfryd a disglair a'i hegni cadarnhaol a fyddai'n codi hwyl unrhyw un.
“Roedd Meg yn hoff iawn o fod allan yn yr awyr agored, yn enwedig cerdded gyda'i thad a'i chi. Yn ddiweddar, dringodd i gopa'r Wyddfa.
“Roedd Meg hefyd yn hoffi darllen y clasuron, gwylio Anime a gwrando ar gerddoriaeth, yn ogystal â chefnogi tîm rygbi'r Wasps.
“Bydd pawb yn gweld eisiau Meg, a bydd ei mam a'i thad, ei chwaer, ei neiniau a'i theidiau a'i ffrindiau yn ei charu am byth.”
Byddai teulu Meg yn gwerthfawrogi cael preifatrwydd ar hyn o bryd er mwyn prosesu'r hyn sydd wedi digwydd a galaru am eu merch.