Yn anffodus, bu adroddiadau ledled y wlad am sgamwyr yn ceisio defnyddio achosion coronafeirws COVID-19 i dwyllo pobl.
Mae'r sgamiau canlynol ymysg y rhai y mae twyllwyr, yn ôl yr adroddiadau, wedi'u gwneud neu wedi ceisio eu gwneud mewn rhannau eraill o'r DU.
Er nad yw'r sgamiau hyn yn gyffredin, roeddem am godi ymwybyddiaeth ohonynt a sicrhau na fydd pobl yn ein cymunedau yn cael eu twyllo ganddynt:
- Twyllwyr yn esgus gwerthu cyfarpar diogelu personol megis masgiau wyneb, ond byth yn eu hanfon
- Negeseuon e-bost yn cynnwys dolenni sydd i fod i ddarparu rhagor o wybodaeth am goronafeirws ond sydd mewn gwirionedd yn arwain at wefan faleisus neu rywun yn gofyn am arian
- Negeseuon e-bost ffug sy'n esgus eu bod o sefydliadau megis Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau neu Sefydliad Iechyd y Byd, sy'n honni eu bod yn gallu darparu rhestr o bobl sydd wedi'u heintio â choronafeirws yn yr ardal. Mewn gwirionedd, maent yn cynnwys dolenni i wefannau maleisus
- Ymdrechion i dwyllo pobl i ddatgelu gwybodaeth bersonol, ariannol, neu wybodaeth sensitif arall
Rhannwch y cyngor hwn ar sut i atal troseddau â'ch ffrindiau a'ch teulu i helpu i roi terfyn ar y twyll:
- Peidiwch â chlicio ar ddolenni nac atodiadau mewn negeseuon e-bost amheus
- Peidiwch byth ag ymateb i negeseuon e-bost diwahoddiad sy'n gofyn am fanylion personol neu ariannol
- Os byddwch yn ystyried prynu pethau ar wefannau nad ydych yn gyfarwydd â nhw, neu nad ydych yn ymddiried ynddynt, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymchwilio i'r cwmni cyn prynu unrhyw beth
- Gofynnwch i'ch teulu a'ch ffrindiau am gyngor
- Cadwch mewn cysylltiad (dros y ffôn neu ar-lein os yw'n briodol) â'ch ffrindiau a'ch teulu, yn enwedig os byddant yn oedrannus neu'n fwy agored i niwed
- Gosodwch y feddalwedd ddiweddaraf ar eich dyfeisiau a sicrhewch eich bod yn ei diweddaru.
Gallwch roi gwybod am dwyll neu ymgais i dwyllo drwy Action Fraud.