Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:35 26/11/2020
Mae Heddlu De Cymru a'r saith awdurdod lleol yn Ne Cymru wedi sefydlu Timau Gorfodi ar y Cyd er mwyn parhau i gefnogi'r ymdrechion a wneir ar y cyd i arafu lledaeniad y Coronafeirws.
Bydd y Timau Gorfodi ar y Cyd, sy'n cynnwys swyddogion yr heddlu a swyddogion cynghorau, yn cymryd camau yn erbyn unigolion, busnesau a safleoedd trwyddedig y mae'n amlwg nad ydynt yn cydymffurfio â'r rheoliadau neu sy'n eu torri dro ar ôl tro.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Andy Valentine, sy'n arwain ymateb Heddlu De Cymru i COVID-19:
“Drwy gydol y pandemig hwn, mae ein dull plismona wedi cynnwys esbonio'r rheolau, annog pobl i gydymffurfio â nhw a defnyddio camau gorfodi pan fetho popeth arall.
“Bydd hynny yn parhau, ac er ein bod wedi cael pwerau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a bod y Timau Gorfodi ar y Cyd wedi cael eu sefydlu, byddwn yn parhau i sicrhau bod ein dull o orfodi yn gymesur.
“Ond i'r bobl a'r busnesau sy'n parhau i anwybyddu'r rheolau, mae ein neges yn glir: Mae angen i chi wneud y peth iawn i atal lledaeniad y Coronafeirws yn ein cymunedau, ac os byddwch yn dangos diffyg ystyriaeth amlwg tuag at y rheolau, dylech ddisgwyl i'r heddlu neu ein hasiantaethau partner gymryd camau gorfodi.”
Dywedodd y Cynghorydd Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot a llefarydd CLlLC dros Ddiogelwch Cymunedol:
“Rydym yn croesawu sefydlu'r Timau Gorfodi ar y Cyd, ac yn hyderus y bydd yr adnodd ychwanegol hwn yn cryfhau'r gwaith partneriaeth, sydd wedi bod yn hanfodol wrth ymateb i'r pandemig, ymhellach.
“Gallwn weld y buddion yn ymarferol eisoes yng Nghastell-nedd Port Talbot, gydag ymweliadau gan y Tîm Gorfodi ar y Cyd y penwythnos diwethaf yn arwain at gyflwyno dau hysbysiad gwella i leoliadau nad oeddent yn cydymffurfio.
“Er mwyn arafu lledaeniad y feirws, mae'n hollbwysig nad yw'r bobl sy'n torri'r rheolau yn tanseilio ymdrechion y mwyafrif o bobl a busnesau sy'n gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw ein cymunedau'n ddiogel.”
Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg:
“Ers dechrau'r pandemig pan roddwyd cyfyngiadau ar waith gyntaf, mae'r mwyafrif helaeth o drigolion Bro Morgannwg wedi dilyn y rheolau'n ofalus, gan wrando ar ganllawiau diogelwch ac osgoi sefyllfaoedd sy'n peri risg iddynt eu hunain ac i'r gymuned ehangach. Hoffem ddiolch i'r unigolion hynny eto am eu hymagwedd ystyriol, gymunedgar.
“Fodd bynnag, yn anffodus, mae lleiafrif o bobl yn gwrthod arfer yr un ymagwedd gyfrifol, ac mae eu hymddygiad hunanol a byrbwyll yn bygwth tanseilio ymdrechion pawb arall.
“Lle daw materion sy'n ymwneud â chydymffurfio i'r amlwg, bydd ein swyddogion bob amser yn ceisio gweithio gydag unigolion, busnesau a safleoedd trwyddedig lle bynnag y bo'n bosibl. Ond mewn sefyllfaoedd lle mae pobl yn torri'r rheolau’n barhaus ac yn fwriadol, gall y cyhoedd fod yn dawel eu meddwl y byddwn yn cymryd camau mwy difrifol.”
Ychwanegodd Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gyflawni a Gweithrediadau, David Hopkins:
“Mae ein timau trwyddedu ac iechyd y cyhoedd wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda chydweithwyr yn Heddlu De Cymru dros nifer o fisoedd yn cynnal hapwiriadau er mwyn sicrhau bod busnesau yn cydymffurfio â rheoliadau COVID-19. Rydym wedi gweld enghreifftiau da iawn o fusnesau yn chwarae eu rhan, ac rydym hefyd wedi cymryd camau cadarn pan oedd angen i ni wneud hynny.
“Rydym yn deall ei bod pobl eisiau teimlo'n ddiogel pan fyddant yn mynd i'r dafarn neu i fwyty gyda'r nos, a bydd ein timau gorfodi ar y cyd yn parhau i chwarae eu rhan drwy sicrhau bod busnesau yn gwneud yr hyn y gallant i atal lledaeniad y feirws.”
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:
“Mae sefydlu'r Tîm Gorfodi ar y Cyd yng Nghaerdydd yn adeiladu ar y gwaith a wnaed gan y cyngor a phartneriaid lleol ers i'r cyfyngiadau ddechrau cael eu llacio ledled Cymru, er mwyn sicrhau bod unigolion a busnesau yn dilyn y rheolau a roddwyd ar waith i leihau'r risg o drosglwyddo'r feirws yn y gymuned.
“Mae safleoedd trwyddedig yn gwneud cyfraniad sylweddol i'r economi, ond mae bariau a thafarndai yn arbennig yn peri pryder os na fydd cwsmeriaid yn dilyn y canllawiau ar niferoedd a chadw pellter cymdeithasol. Drwy sefydlu'r Timau Gorfodi ar y Cyd, ceir pwerau ychwanegol a fydd yn helpu yn y frwydr yn erbyn pandemig y Coronafeirws, yn ogystal â lleihau'r risg o haint ac arafu lledaeniad y feirws.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Dhanisha Patel, cadeirydd cydbwyllgor Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir:
“Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae ein timau gorfodi wedi ymgymryd â chylch gwaith llawer ehangach na'r arfer, gan sicrhau bod rheoliadau newydd yn cael eu bodloni, a helpu i leihau'r risg o amlygiad i'r Coronafeirws gymaint â phosibl.
“Fel rhan o'r rôl hon, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Heddlu De Cymru a busnesau, gan roi cyngor a chymorth, a chyflwyno hysbysiadau gorfodi am achosion o ddiffyg cydymffurfio pan fetho popeth arall.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Patel, sydd hefyd yn aelod cabinet ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros genedlaethau'r dyfodol a llesiant:
“Mae gweithgareddau wedi'u targedu gan yr heddlu a swyddogion gorfodi wedi dangos bod y mwyafrif helaeth o fusnesau wedi rhoi'r mesurau angenrheidiol ar waith, a dim ond ychydig sydd wedi cael hysbysiadau i wella neu gau.
“Mae wedi bod yn flwyddyn hynod o heriol - hoffem ddiolch i fusnesau am eu hymdrechion parhaus i sicrhau bod eu staff a'u cwsmeriaid mor ddiogel â phosibl, a hoffem hefyd atgoffa'r rheini sy'n methu â sicrhau bod y rheoliadau'n cael eu dilyn, y byddwn yn cymryd camau gorfodi.”