Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Ni fydd yr heddlu na swyddogion eraill BYTH yn gofyn i chi roi arian parod, cardiau banc na nwyddau gwerthfawr eraill iddynt.
Dyna’r neges glir gan swyddogion, sy’n rhybuddio bod troseddwyr yn dynwared swyddogion gorfodi’r gyfraith o hyd mewn ymgais i argyhoeddi eu dioddefwyr i roi arian iddynt.
Mae troseddwyr yn defnyddio nifer o strategaethau gwahanol yn eu hymdrechion i gael arian. Maent yn cynnwys:
Dywedodd DI Nick Bellamy o Uned Troseddau Economaidd Heddlu De Cymru:
“Tra bod y rhan fwyaf o’r wlad yn cyd-dynnu yn ystod pandemig Covid-19, mae’n ffiaidd bod nifer bach yn ceisio twyllo pobl eraill mewn ymgais i ddwyn arian.
“Mae gan dwyllwyr ddulliau mae’n nhw’n gyfarwydd iawn â nhw a gallant fod yn arbennig o argyhoeddiadol. Fodd bynnag, cofiwch na fydd yr heddlu, asiantaethau’r llywodraeth, banciau na busnesau ag enw da fyth yn gofyn i chi ddatgelu gwybodaeth bersonol na manylion banc, na gofyn am daliadau.
“Os byddwch yn cael galwad fel hyn, rhowch y ffôn i lawr. Er mwyn siarad â’r heddlu, gwnewch yn siŵr bod eich llinell yn glir – gallwch wneud hynny drwy geisio ffonio rhywun rydych yn ei adnabod yn gyntaf a gweld os gallwch gysylltu. Os bydd pobl yn dod i’ch cyfeiriad, ffoniwch 999.”
Mae achosion eraill o dwyll rydym wedi cael gwybod amdanynt ledled y wlad yn cynnwys twyllwyr yn ceisio gwneud arian yn ystod pandemig Covid-19 drwy esgus bod ganddynt gyfarpar diogelu personol (PPE) fel masgiau wyneb ar werth, neu hyd yn oed triniaeth ar gyfer Covid-19, ac anfon ystod o e-byst sbam sy’n gysylltiedig â coronafeirws.
Gallwch anfon e-byst amheus ymlaen i [email protected]. Mae rhagor o wybodaeth am dwyll a manylion am sut i roi gwybod amdanynt ar gael drwy Action Fraud.