Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:14 03/11/2020
Roedd rhieni plant a fu’n ymddwyn yn wrthgymdeithasol ac yn torri deddfwriaeth y coronafeirws ymhlith y rhai a gafodd ddirwyon yn Ne Cymru dros y penwythnos.
Wrth i Gymru agosáu at ail benwythnos y cyfnod atal byr cenedlaethol, cafodd Heddlu De Cymru bron i 1,500 o alwadau ddydd Sadwrn, 31 Hydref, gyda mwy na 200 o’r galwadau hynny yn ymwneud â phryderon am dorri’r rheolau ynglŷn â Covid a phryderon am Galan Gaeaf.
Roedd y galwadau yn cyfeirio at amrywiaeth o bryderon, o bobl ifanc yn cwrdd ac yn cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol, partïon mewn tai, achosion lle yr amheuir bod safleoedd trwyddedig y dylent fod ar gau wedi torri’r rheolau, unigolion sydd wedi cael prawf Covid positif yn peidio â hunanynysu ac achosion o ymgynnull mewn mannau crefyddol.
Er bod swyddogion yn parhau i fabwysiadu dull plismona 4E ledled y DU, gan weithio’n galed i ymgysylltu â’n cymunedau i annog cydymffurfiaeth wirfoddol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, cymerwyd camau gorfodi ar nifer o achlysuron lle roedd yn angenrheidiol ac yn gymesur.
Roedd y camau gweithredu a gymerwyd yn cynnwys:
Yn ogystal ag ymgysylltu a gorfodi yn y fan a’r lle, mae ymholiadau ar ôl digwyddiad yn parhau ar gyfer nifer o ddigwyddiadau gan gynnwys protestiadau, achosion o dorri trwyddedau a phartïon mewn tai, i nodi’r rhai a oedd yn cymryd rhan a chymryd camau gorfodi pellach lle y bo angen.
Dywedodd y Comander Aur, y Prif Uwcharolygydd, Andy Valentine: “Fel y rhagwelwyd, roedd y penwythnos diwethaf yn gyfnod prysur arall i’r heddlu. Yn ogystal â’r galw presennol ar yr heddlu – nad yw’n diflannu er ein bod yng nghanol pandemig – roeddem hefyd yn wynebu galw parhaus y ddeddfwriaeth Covid a’r cyfyngiadau uwch presennol a galw traddodiadol Calan Gaeaf.
“Rydym yn parhau i weld bod y mwyafrif helaeth o bobl yn cydymffurfio â’r cyfyngiadau am mai dyna’r peth cywir i’w wneud ar eu cyfer hwy eu hunain, eu hanwyliaid a’n GIG. Fel bob amser, hoffwn ddiolch iddynt am hynny am ei fod wir yn ein galluogi ni a’n cydweithwyr yn y gwasanaethau brys i ganolbwyntio ein hadnoddau lle y mae eu hangen fwyaf.
“Credaf ei bod yn werth nodi bod rhieni yr oedd yn amlwg nad oeddent yn sicrhau bod eu plant yn dilyn y rheolau hefyd ymhlith y rhai a gafodd ddirwyon y penwythnos hwn. Os ydym am helpu i arafu lledaeniad y feirws hwn, mae’n rhaid i bob un ohonom gymryd cyfrifoldeb a sicrhau ein bod ni – a’r rhai sy’n ddibynnol arnom – yn gwneud y peth cywir.
“Er y gwnaethom ymateb i alwadau am achosion gwirioneddol o dorri’r rheolau, gwnaeth ein swyddogion hefyd ymdrin â nifer o achosion nad oedd yr adroddiadau amdanynt yn gywir, er eu bod yn llawn bwriadau da.
“Mae ymateb i’r galwadau hynny yn cymryd amser ac mae’n dibynnu ar ein swyddogion yn defnyddio’r dull ‘ymgysylltu, egluro ac annog, a gorfodi lle y bo angen’, er mwyn deall y sefyllfa maent yn ei hwynebu yn llawn.
“Er ei bod yn rhwystredig i’r rhai sy’n cydymffurfio pan fyddant o’r farn nad yw eraill yn gwneud hynny, mae’n parhau i fod yn hynod bwysig i ni fel heddlu ein bod yn delio â phob adroddiad ar ei deilyngdod ac yn parhau i ymateb mewn ffordd gymesur a phwyllog.
“Fodd bynnag, gellir rhoi sicrwydd i’r cyhoedd y byddwn yn parhau i orfodi lle mae achosion amlwg a difrifol o dorri’r rheoliadau yn digwydd.”