Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn hynod falch o gael llongyfarch pum aelod o Tîm Heddlu De Cymru ar ôl iddynt gael eu cynnwys yn Rhestr Anrhydeddau ar gyfer y Flwyddyn Newydd.
Rhingyll Tim Barrell – QPM
Ditectif Gwnstabl Richie Paskell – MBE
Steve Jones, staff yr heddlu – BEM
Glynne James, caplan yr heddlu – BEM
Cwnstabl Gwirfoddol Robert Davies – BEM
Mewn ymateb i'r anrhydeddau, dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“Rwy'n falch iawn bod ymdrechion swyddogion, staff a gwirfoddolwyr Heddlu De Cymru wedi cael eu cydnabod unwaith eto yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd, ac rwyf wrth fy modd ar ran Tim, Richie, Steve, Glynne a Robert.
“Nid yw'r rhai sy'n ymroi cymaint i'w cymunedau yn gwneud hynny er mwyn cael cydnabyddiaeth, ond gobeithio y gallant ymfalchïo yn y ffaith eu bod wedi cael eu hanrhydeddu.
“Bydd eu hymroddiad wedi ysbrydoli cymaint o bobl eraill hefyd, ac rwy'n ddiolchgar am yr hyn y maent wedi'i wneud – ac yn parhau i'w wneud – i sicrhau mai Heddlu De Cymru yw'r sefydliad gorau y gall fod wrth wasanaethu ein cymunedau a'u cadw'n ddiogel.”
Dywedodd y Rhingyll Tim Barrell, o'r adran diogelwch cymunedol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ei fod “wedi'i synnu ac yn falch” o dderbyn Medal Heddlu'r Frenhines.
Ychwanegodd:“Rwy'n hynod falch o fod yn swyddog yr heddlu ac rwy'n teimlo yr un mor frwd am y swydd, ac am roi gwasanaeth i'r cyhoedd, ag yr oeddwn pan ymunais dros 20 mlynedd yn ôl.Rwy'n dal i deimlo'n gyffrous yn gyrru i'r gwaith gan feddwl tybed beth fydd yn digwydd heddiw.
“Mae plismona yn rôl anodd a heriol ac mae'n gofyn am waith tîm ac mae'r anrhydedd hon yn dyst i'r bobl wych rwyf wedi gweithio gyda nhw dros y blynyddoedd er mwyn rhoi'r gwasanaeth hwnnw i gymunedau De Cymru.”
Gwnaeth y Rhingyll Barrell hefyd ddiolch i'r rhai a oedd wedi'i enwebu am yr anrhydedd.
Mae'r Ditectif Gwnstabl Richard Paskell sydd, ochr yn ochr â'i rôl yn Heddlu De Cymru, wedi gwirfoddoli i sefydliadau gan gynnwys Tîm Achub Mynydd ac Ambiwlans Sant Ioan Cymru, wedi cael MBE.
Dywedodd:“Mae'n anhygoel. Rwy'n methu credu'r peth o hyd.Rwyf wrth fy modd ac yn wir yn teimlo cymaint o anrhydedd ydyw.”
Bu Richard, 43 oed, sydd wedi bod yn gwirfoddoli ers iddo fod yn 16 oed, yn aelod o Dîm Achub Mynydd y Bannau Gorllewinol am amser maith ac yn Brif Wirfoddolwr i Ambiwlans Sant Ioan Cymru ers mis Ionawr 2020. Mae wedi talu teyrnged i'r rhai sy'n agos iddo sydd wedi ei helpu i roi cymaint o'i amser hamdden i wirfoddoli.
Ychwanegodd DC Paskell: “Ers yn 16 oed, mae gwirfoddoli wedi bod yn rhan fawr o'm bywyd a'm hunaniaeth.Rwyf wedi colli Nadoligau a phen-blwyddi ond nid wyf erioed wedi dyfaru eiliad o'm gyrfa fel gwirfoddolwr.
“Heb gefnogaeth fy nghyd-swyddogion, fy mhenaethiaid, ac yn enwedig fy ngwraig a'r plant, ni fyddai wedi bod yn bosibl!”
Mae Steve Jones, sy'n aelod o staff yr heddlu, wedi cael Medal yr Ymerodraeth Brydeinig yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd. Dywedodd ei fod yn meddwl mai jôc oedd hi pan roddwyd gwybod iddo.
Mae Steve, sydd wedi bod yn archwilydd systemau ac yn rheolwr dadansoddi yn Heddlu De Cymru ers 2008, wedi cael ei gydnabod am ei wasanaeth i blismona.
Dywedodd:“Rwyf ar ben fy nigon. Mae'n rhywbeth rwy'n ei weld unwaith neu ddwywaith y flwyddyn ar y newyddion, ond doeddwn erioed wedi disgwyl y byddwn yn cael unrhyw beth fy hun.
“Roeddwn i'n meddwl mai jôc oedd hi – dal i wneud! Ni feddylies i erioed ei bod o ddifrif.
“Gan fod y tîm cyfan yn gweithio mor galed, teimlaf mewn ffordd fy mod wedi cael anrhydedd sydd wir i'w rhannu rhwng pob un ohonom.”
Mae caplan Heddlu De Cymru wedi cael Anrhydedd Blwyddyn Newydd – i gydnabod bron chwe degawd a hanner o wasanaeth cyhoeddus.
Bydd y Parchedig Glynne James, 81 oed, sy'n gyn-filwr y lluoedd arfog a fu hefyd yn gweithio fel swyddog yr heddlu am fwy na 30 mlynedd, yn cael Medal yr Ymerodraeth Brydeinig.
Cafodd Glynne ei ddrafftio i'r llynges drwy orfodaeth filwrol pan oedd yn ei arddegau, cyn cael ei drosglwyddo yn nes ymlaen i Gangen y Llynges Awyr lle bu'n gweithio fel trydanwr awyrennau.
Dechreuodd weithio fel swyddog Heddlu Bwrdeistref Abertawe yn 1964, gan ymddeol fel swyddog o'r heddlu olynol – sef Heddlu De Cymru – yn 1996. Aeth ymlaen i dreulio naw mlynedd ychwanegol yn gweithio fel swyddog llesiant yr heddlu.
Cafodd Glynne ei ordeinio yn 1985, ac mae hefyd wedi gwasanaethu fel caplan yr heddlu ers 1996. Yn ystod ei amser yn y rôl, helpodd sefydlu'r gerddi coffa ym mhencadlys yr heddlu, ac mae hefyd wedi cymryd rhan yn y gwaith o recriwtio a hyfforddi mwy o gaplaniaid yr heddlu.
Mae hefyd yn arwain digwyddiadau megis gwasanaeth Dydd y Cofio blynyddol yr heddlu, a chynhaliodd wasanaeth gan gadw pellter cymdeithasol y mis diwethaf (yn y llun).
Wrth ddisgrifio ei ymateb ar ôl cael gwybod am Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig, gwnaeth Glynne gyfaddef: “Mae'r holl beth yn syndod i mi.
“Wrth agor yr e-bost, roeddwn i'n meddwl ar y dechrau mai i rywun arall yr oedd y neges.
“Ond rwy'n teimlo'n emosiynol ac yn falch bod rhywun wedi bod â chymaint o ymddiriedaeth, ffydd a hyder ynof fel ei fod wedi fy enwebu.
“Rwy'n holi fy hun, ‘beth rydw i wedi ei wneud i fod yn deilwng o hyn?’.”
Rydym hefyd am longyfarch Robert Davies sy'n derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i gydnabod ei wasanaeth estynedig fel swyddog gwirfoddol yr heddlu.
Ymunodd Cwnstabl Gwirfoddol Davies â ni ym mis Gorffennaf 1988 ac mae wedi ymgymryd â'r rôl yn ardaloedd Castell-nedd, Port Talbot ac Abertawe ers hynny.
Y llynedd yn unig, gwnaeth Roberth, er gwaethaf ei oedran, roi dros 500 o oriau o wasanaeth.
Dywedodd Robert ei fod wir yn teimlo'r fraint a'r anrhydedd o gael ei enwebu i gael y fedal.