Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae twyll gwerth mwy na chwarter miliwn o bunnoedd wedi cael ei atal yn ardal Heddlu De Cymru diolch i gyflwyno’r Protocol Bancio, cynllun arloesol sydd â’r nod o nodi a diogelu dioddefwyr twyll posibl pan fyddant yn mynd i gangen banc neu gymdeithas adeiladu.
Ers i Heddlu De Cymru ei gyflwyno ym mis Hydref 2017, mae wedi derbyn ac ymateb i fwy na 70 o alwadau brys drwy’r cynllun – ac wedi arestio pum unigolyn.
Wedi ei ddatblygu fel partneriaeth rhwng y diwydiant cyllid, yr heddlu a Safonau Masnach, mae’r Protocol Bancio yn galluogi staff cangen banc i gysylltu â’r heddlu os byddant yn amau bod cwsmer yn cael ei dwyllo, gydag ymateb â blaenoriaeth ar unwaith i’r gangen. Mae staff cangen, y rhai sy’n cymryd y galwadau, yr heddlu a swyddogion safonau masnach ym mhob ardal i gyd wedi cael eu hyfforddi ar y Protocol Bancio a’r camau y mae angen eu cymryd pan fydd cwsmer mewn perygl.
Ledled y wlad mae’r Protocol Bancio wedi arwain at tua 200 o arestiadau ac wedi atal twyll gwerth bron i £25m, tra bod yr heddlu wedi derbyn ac ymateb i i ymhell dros 3,500 o alwadau brys drwy’r cynllun.
Yn ogystal â stopio twyll rhag digwydd, mae’r cynllun yn sicrhau ymateb cyson i ddioddefwyr posibl ac yn rhoi cymorth ychwanegol iddynt i’w rhwystro rhag dod yn ddioddefwyr yn y dyfodol. Mae UK Finance wedi arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu’r Protocol Bancio, gyda chymorth gan Dîm Sgamiau Safonau Masnach Cenedlaethol a’r Tasglu Twyll ar y Cyd.
Dywedodd Katy Worobec, Rheolwr Gyfarwyddwr Troseddau Economaidd yn UK Finance:
“Gall twyll gael effaith ofnadwy ar ddioddefwyr ac yn aml y bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas sy’n cael eu targedu. Dyna pam mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd er mwyn ei atal.
“Mae’r Protocol Bancio yn dangos sut y gall cydweithrediad agos rhwng y diwydiant ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith helpu i ddiogelu dioddefwyr a mynd i’r afael â thwyllwyr.
“Mae’r math hwn o ddull cydgysylltiedig yn hanfodol i aros ar y blaen a sicrhau y caiff sgamwyr diegwyddor sy’n targedu cwsmeriaid eu dwyn gerbron y llys.”
Ychwanegodd Ditectif Arolygydd Heddlu De Cymru, Stuart Prendiville:
“Mae Heddlu De Cymru, yn debyg i’r heddluoedd eraill yng Nghymru a llawer ledled gweddill y DU, wedi rhoi Ymgyrch Signature ar waith, sy’n rhoi ffocws newydd ar ddioddefwyr twyll sy’n agored i niwed, yn ogystal â rhwystro’r rhai hynny a all fod yn agored i niwed rhag dioddef yn y lle cyntaf.
“Mae gweithio gyda sefydliadau partner yn chwarae rôl allweddol yn y frwydr yn erbyn twyllwyr, ac mae’r Protocol Bancio yn rhan bwysig o hyn. Bydd nifer o fasnachwyr twyllodrus neu dwyllwyr eraill yn ceisio twyllo eu dioddefwyr i roi arian iddynt ar gyfer gwaith diangen ar eu heiddo; ar gyfer talu am nwyddau neu wasanaethau ffug megis buddsoddiadau sgam; neu hyd yn oed drwy honni eu bod yn swyddogion o HMRC, er enghraifft.
“Mae’r Protocol Bancio yna’n diogelu dioddefwyr – ac, er ein bod yn gweithio’n galed i rwystro unrhyw un rhag cael eu twyllo yn y lle cyntaf, pan fydd y Protocol yn gweithio’n dda gallwn helpu i leihau’r gost ariannol ac emosiynol i ddioddefwyr.”