Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:29 03/11/2020
Cymeradwyodd y panel argymhelliad gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael, i benodi Mr Vaughan mewn cyfarfod yn gynharach heddiw.
Daw’r angen i benodi Prif Gwnstabl newydd yn dilyn y cyhoeddiad bod y Prif Gwnstabl presennol, Matt Jukes, wedi derbyn rôl fel Comisiynydd Cynorthwyol gyda’r Heddlu Metropolitanaidd.
Heddiw, dywedodd Mr Michael: “Rwy’n bendant ac yn hyderus bod gennym y person cywir i arwain Heddlu De Cymru, ac felly rwy’n falch iawn bod Panel yr Heddlu a Throseddu wedi cymeradwyo fy argymhelliad i benodi Jeremy Vaughan yn Brif Gwnstabl De Cymru.
“Yn gynharach heddiw, ymddangosais gerbron y Panel gyda Jeremy Vaughan a fy Mhrif Weithredwr, Lee Jones, i egluro’r broses rydym wedi’i dilyn, a gwnaethom ddarparu adroddiad ysgrifenedig gan yr Asesydd Annibynnol a oedd yn gyfrifol am arsylwi a chraffu ar uniondeb y broses benodi a sicrhau ei bod yn deg a thryloyw.
“Rwy’n ddiolchgar i’r holl bobl sydd wedi rhoi o’u hamser i fod yn rhan o’r broses. Mae’n dangos pwysigrwydd y rôl gan eu bod yn cynrychioli amrywiaeth eang o ddisgyblaethau ac asiantaethau. Gwnaethant helpu i weld sut fyddai pob ymgeisydd yn gwasanaethu’r cyhoedd ar hyd a lled De Cymru, arwain fel Prif Gwnstabl, cynnal y cynnydd a wnaed gennym i atal troseddau a niwed, diogelu ein cymunedau ac ymateb i droseddau, anrhefn ac achosion o gamfanteisio ar unigolion pryd bynnag y bydd achosion o’r fath yn codi.’’
Bydd Mr Vaughan yn arwain heddlu mwyaf Cymru o 7 Tachwedd, wedi iddo wasanaethu dros y pedair blynedd diwethaf fel Prif Gwnstabl Cynorthwyol a Dirprwy Brif Gwnstabl. Dechreuodd ei yrfa plismona gyda Heddlu Gogledd Cymru yn 1996.
Dywedodd: “Rwy’n falch iawn fy mod yn olynu Matt Jukes fel Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru ac yn cael y cyfle i arwain tîm cystal o swyddogion a staff sy’n gweithio mor galed i gadw cymunedau De Cymru yn ddiogel.
“Rwy’n etifeddu heddlu sydd mewn cyflwr da ac sy’n addas ar gyfer mynd i’r afael â heriau heddiw. Ond nid yw hyn yn golygu y byddwn yn aros yn ein hunfan, ac rwy’n benderfynol o sicrhau ein bod yn symud ymlaen er mwyn parhau â’r gwaith o ddatblygu camau i atal troseddau a diogelu cymunedau.
“Rydym yn plismona mewn cyfnod heriol – mae COVID-19 wedi effeithio ar bob un o’n cymunedau a gwn y bu’n gyfnod anodd iawn i bobl De Cymru.
“Nid yw swyddogion na staff Heddlu De Cymru wedi cael eu heithrio rhag yr heriau hyn – maent wedi mynd i’r afael â’r ychydig o bobl hynny sy’n rhoi pobl eraill mewn perygl drwy anwybyddu’r rheolau, ac maent hefyd wedi gorfod gofalu am eu llesiant eu hunain, iechyd eu teuluoedd, a hynny wrth barhau i gadw’r cyhoedd yn ddiogel rhag niwed bob dydd.”
“Er gwaethaf yr anawsterau yn sgil COVID-19, rhaid i ni barhau i fynd i’r afael â’r heriau yn ein cymunedau, gan gynnwys trais difrifol a throseddau’n ymwneud â chyllyll, trais a cham-drin domestig a delio mewn cyffuriau, sydd bellach yn cynnwys amddiffyn rhai o’r bobl sydd fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas y mae gangiau cyffuriau yn camfanteisio arnynt.
“Byddwn yn disgrifio llawer o’r hyn rydym yn mynd i’r afael ag ef ar hyn o bryd fel niwed cudd – camdriniaeth sy’n mynd rhagddi tu ôl i ddrysau caeëdig – sy’n golygu ei bod yn gwbl hanfodol bod dioddefwyr a chymunedau yn hyderus i roi gwybod i ni am droseddau fel cam-drin rhywiol a cham-drin domestig.
“Ni all yr heddlu gyflawni na mynd i’r afael â phopeth ar ei ben ei hun ac wrth barhau i weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill, rwy’n gobeithio y gallwn chwarae ein rhan i helpu pobl eraill i gael y cymorth a’r help sydd eu hangen arnynt.”