Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:06 22/01/2021
Mae gwasanaethau brys ac asiantaethau eraill yn dal yn bresennol yn lleoliad y llifogydd yn Sgiwen.
Cafodd trigolion o tua 20 o dai eraill eu symud o'u cartrefi am tua 9pm neithiwr.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Trudi Meyrick: “Hoffem ddiolch i'r trigolion a'r gymuned ehangach am eu cydweithrediad yn ystod y cyfnod anodd hwn i bawb.
“Rydym yn sylweddoli bod pobl yn awyddus i ddychwelyd i'w cartrefi ac rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod hyn yn digwydd cyn gynted ag y bydd yn ddiogel. Yn y cyfamser, rydym yn gofyn i bobl fod yn amyneddgar gan mai eu cadw yn ddiogel yw ein blaenoriaeth bennaf.
“Rydym hefyd yn ddiolchgar am gefnogaeth y gymuned leol a byddwn yn gweithio gyda'r trigolion a'n partneriaid i gydgysylltu unrhyw gymorth a gynigir ond ar yr adeg hon hoffem unwaith eto atgoffa pobl ei bod yn hanfodol eu bod yn cadw draw o'r ardal.”
Dywedodd Karen Jones, Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Bu swyddogion y cyngor yn aros yn y lleoliad drwy gydol y nos er mwyn monitro lefelau dŵr a bod wrth law i roi cymorth i drigolion. Gall trigolion y mae'r llifogydd yn Sgiwen wedi effeithio arnynt neu unrhyw unigolion sydd wedi symud o'u cartrefi ac nad ydynt wedi cysylltu â ni eto ffonio llinell gymorth y cyngor ar 01639 686868. Rydym hefyd wedi cyhoeddi tudalen we benodol sy'n cynnwys gwybodaeth, diweddariadau a chyngor yn https://www.npt.gov.uk/skewen?lang=cy-gb”
Dywedodd Roger Thomas, Dirprwy Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru “Mae ein swyddogion yn dal yn bresennol yn y lleoliad ac yn parhau i gefnogi'r ymateb amlasiantaethol i'r digwyddiad hwn. Ar hyn o bryd, rydym yn defnyddio cyfarpar arbenigol i bwmpio dŵr i ffwrdd o'r ardal.
“Rydym yn deall ei bod hi'n amser anodd i'r rhai yr effeithiwyd arnynt a'r gymuned ehangach ond rydym yn eich annog i barhau i gadw draw o'r lleoliad nes ein bod yn barnu ei bod yn ddiogel i drigolion ddychwelyd.
“Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa a chefnogi ein hasiantaethau partner a'r rhai yr effeithiwyd arnynt dros yr ychydig ddiwrnodau nesaf.”
Dywedodd Martyn Evans, Pennaeth Gweithrediadau De-orllewin Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi anfon swyddogion i Sgiwen i roi cyngor ar leihau'r risg o lygredd mewn cyrsiau dŵr yn yr ardal. Byddant hefyd yn ymchwilio i unrhyw lygredd ac effeithiau ar Gamles Tennant ac Afon Nedd.
“Mae dŵr glofa wedi achosi llygredd yng Nghamles Tennant a bydd ein gwaith monitro ac ymchwilio yn parhau dros y diwrnodau nesaf er mwyn canfod faint o lygredd a achoswyd.
“Rydym hefyd wedi cynnal profion ar gyrsiau dŵr eraill yn y cyffiniau. Mae'r canlyniadau yn awgrymu na fu unrhyw effaith sylweddol ar y rhain hyd yma.”
Mae'r Awdurdod Glo wrthi'n ymchwilio i'r hyn a achosodd y llifogydd.