Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:09 03/12/2020
Mae'n dristwch mawr gennym gyhoeddi marwolaeth ein ffrind a'n cydweithiwr, Cwnstabl yr Heddlu 5482 Rob Parry.
Roedd Rob yn gweithio yn yr Hwb ym Mae Caerdydd ar ôl gweithio ledled Caerdydd cyn hynny.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
"Rwy'n gwybod y bydd y newyddion am farwolaeth Rob yn sioc fawr i gymaint o bobl ac yn dorcalonnus. Rwy'n estyn fy nghydymdeimlad diffuant i anwyliaid Rob, yn enwedig ei gydweithwyr a'i ffrindiau agosaf ac, wrth gwrs, ei deulu.
"Roedd Rob wedi bod yn swyddog gyda ni yn Heddlu De Cymru ers 2013 ac yn Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu ac yn Gwnstabl Gwirfoddol cyn hynny. Roedd ei ymrwymiad a'i dosturi yn golygu ei fod yn aelod uchel ei barch o deulu ein heddlu ac roedd pawb yn meddwl y byd ohono.
"Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi teulu Rob yn ystod y cyfnod anodd hwn.
"Heddwch i'w lwch, a diolchwn am ei wasanaeth.”
Bu farw Rob ddoe yn ei gartref. Nid yw ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.