Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:49 20/07/2020
Ni allwn ddychmygu pa mor anodd y mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod i deulu Christopher na’r poen a’r galar y maent wedi’u dioddef ers ei farwolaeth drasig yn dilyn digwyddiad yn Afon Cynon ym mis Gorffennaf 2019.
Apeliodd y teulu benderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron yn unol â’u hawl o dan broses Hawl y Dioddefwr i Adolygiad.
Mae’r adolygiad hwnnw bellach wedi dod i ben ac mae’n cefnogi penderfyniad gwreiddiol Gwasanaeth Erlyn y Goron i beidio ag erlyn unrhyw un mewn cysylltiad â marwolaeth Christopher. Caiff y broses honno ei chynnal yn gwbl annibynnol ar Heddlu De Cymru.
Cyfeiriodd Heddlu De Cymru ymchwiliad yr heddlu i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, sy’n parhau i archwilio ein hymateb a’n hymchwiliad dilynol i amgylchiadau trasig marwolaeth Christopher.
Rydym yn gwbl ymrwymedig i roi unrhyw gyfleoedd i ddysgu ar waith yn Heddlu De Cymru.
Cafodd y gymuned leol ei hysgwyd yn dilyn marwolaeth drasig Christopher ac rydym yn parhau i weithio’n agos gydag asiantaethau cymorth er mwyn sicrhau bod y cymorth cywir ar gael i’r rhai sydd ei angen.