Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:04 05/06/2020
Diweddarwyd 12 Mehefin
Mae Heddlu De Cymru yn ymwybodol o brotestiadau a chynulliadau yn ymwneud â mudiad Mae Bywydau Du o Bwys sydd wedi'u trefnu ac sy'n cael eu hysbysebu ledled y DU, gan gynnwys rhai mewn nifer o leoliadau yn ardal ein heddlu.
Mae'r heddlu, ynghyd â'n cydweithwyr ledled y wlad, yn sefyll ochr yn ochr â'r holl bobl hynny ledled y byd y mae'r ffordd y bu farw George Floyd wedi eu cynhyrfu a'u dychryn. Rydym yn cydnabod y teimladau cryf sydd wedi deillio o'i farwolaeth, ac effaith gwahaniaethu a hiliaeth yn ein cymunedau – ac rydym yn ymrwymedig i fynd i'r afael â hyn.
Mae diogelu'r cyhoedd rhag peryglon y Coronafeirws hefyd yn gyfrifoldeb parhaus. Rydym yn gweithio i ymgysylltu â threfnwyr protestiadau a'r rhai a fydd yn bresennol i'w hatgoffa o'u rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth gyfredol y Coronafeirws, gan gynnwys y gwaharddiad sy'n atal mwy na dwy aelwyd rhag ymgynnull a'r nod cyffredin y dylai pawb gymryd cyfrifoldeb personol drwy ddilyn rheoliadau Llywodraeth Cymru er mwyn Cadw Cymru'n Ddiogel.
Mae gennym ddyletswydd i ystyried yr holl ddeddfwriaeth berthnasol, ac mae Heddlu De Cymru wedi ceisio cadw dull plismona cyson o ymgysylltu, esbonio ac annog, a gorfodi lle y bo angen os bydd popeth arall wedi methu, drwy gydol yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn. Mae hwn yn ddull rydym yn bwriadu parhau i'w ddefnyddio drwy gydol y penwythnos.