Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:40 29/12/2020
Cyflwynwyd adroddiadau gwysio i nifer o ddathlwyr ar ôl i Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent roi terfyn ar ref anghyfreithlon ddydd Sul (27 Rhagfyr).
Cafodd swyddogion eu hysbysu bod digwyddiad didrwydded yn mynd rhagddo ger Pontprennau - a oedd hefyd yn torri cyfyngiadau presennol y coronafeirws - tua 10.45pm.
Dechreuodd y bobl a oedd yn bresennol yn y ref fynd pan gyrhaeddodd yr heddlu, ond cymerwyd manylion y rheini a arhosodd yno.
Gwnaeth swyddogion stopio nifer o gerbydau, a hefyd ddod o hyd i nifer o bobl eraill a oedd wedi ffoi o'r safle i'r coedwigoedd gerllaw.
Cyflwynwyd adroddiadau gwysio i tua 25 o bobl am dorri rheoliadau'r coronafeirws, ac mae ymholiadau pellach yn mynd rhagddynt i enwi pobl eraill a oedd yn rhan o'r ref ynghyd â'r trefnwyr.
Cafodd pabell a chyfarpar arall, gan gynnwys unedau sain, generaduron, trelar a goleuadau, eu datgysylltu a'u hatafaelu gan swyddogion.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Andy Valentine, sy'n arwain ymateb Heddlu De Cymru i'r coronafeirws: "Mae digwyddiadau cerddoriaeth didrwydded yn peri risg ddifrifol iawn i iechyd y cyhoedd yn ogystal ag ysgogi ymddygiad gwrthgymdeithasol a all amharu ar gymunedau lleol.
"Mae'n siomedig iawn bod aelodau o'r cyhoedd yn fodlon peri risgiau i'w hunain ac i'r gymuned ehangach yn ystod cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4.
"Mae pawb yn ymwybodol o'r pwysau sy'n wynebu'r GIG ar hyn o bryd o ganlyniad i COVID-19, yn ogystal â nifer y bobl sydd, yn anffodus, yn marw.
"O ganlyniad i'r camau buan a gymerwyd gan swyddogion, yn ogystal â chefnogaeth ein cydweithwyr yn Heddlu Gwent, amharwyd ar y rêf a gynlluniwyd, gan sicrhau na fyddai'r digwyddiad yn mynd rhagddo.”
"Mae ymholiadau pellach yn mynd rhagddynt i enwi'r trefnwyr gyda'r bwriad o'u herlyn neu gyflwyno hysbysiad cosb benodedig o £10,000 iddynt.
"Unwaith y byddant wedi dechrau, gall ddigwyddiadau anghyfreithlon o'r fath dyfu'n gyflym, sy'n golygu ei bod yn hollbwysig ymyrryd yn gynnar.
"Felly, rwy'n apelio ar y cyhoedd i roi gwybod am unrhyw amheuon a allai fod ganddynt ynghylch rêfs a gynllunnir neu ddigwyddiadau cerddoriaeth didrwydded i'r heddlu ar 101, neu'n ddienw i Taclo'r Tacle.
"Wrth i ni fyd ati i gasglu cudd-wybodaeth, mae cefnogaeth y cyhoedd yn hollbwysig, a byddwn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni.
"Mae'n bwysicach nag erioed bod ein cymunedau ledled De Cymru yn cael eu hamddiffyn rhag unrhyw ddigwyddiadau sy'n bygwth y mesurau i atal lledaeniad y feirws neu sy'n achosi gweithgarwch gwrthgymdeithasol lleol neu weithgarwch anghyfreithlon."