Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Eleni, mae Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb (Hydref 10-17) yn cael ei chynnal ar adeg pan mae ein cymunedau’n wynebu heriau parhaus yn sgil pandemig y coronafeirws.
Yn unol â thuedd genedlaethol, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion o droseddau casineb yn ardal De Cymru yn ystod y pandemig, sy’n ychwanegu at bwysigrwydd wythnos ymwybyddiaeth troseddau casineb eleni. Bydd Heddlu De Cymru a’i bartneriaid yn dod ynghyd yn ystod yr wythnos i hyrwyddo amrywiaeth a goddefgarwch, ac i annog y rhai sy’n dioddef troseddau casineb i roi gwybod amdanynt.
Digwyddiad casineb yw pan fydd rhywun yn wynebu gweithred o elyniaeth sydd, yn ei barn nhw, wedi’i ysgogi gan anabledd, hil, crefydd, hunaniaeth drawsrywiol neu gyfeiriadedd rhywiol (a elwir hefyd yn nodweddion gwarchodedig). Ymhlith rai o’r mathau o ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â chasineb mae iaith sarhaus, bygythiadau o drais, aflonyddu, bwlio, brawychu neu gam-drin ar-lein.
Bydd digwyddiad casineb yn dod yn drosedd casineb pan fydd trosedd wedi cael ei chyflawni o ganlyniad i elyniaeth neu ragfarn ar sail eich anabledd, hil, crefydd, hunaniaeth drawsrywiol neu gyfeiriadedd rhywiol. Trosedd yw gweithred sy’n torri’r gyfraith a all gynnwys troseddau megis ymosod, aflonyddu, dwyn, difrod troseddol, llythyrau cas a thwyll.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael:
“Mae diogelu’r rhai sy’n agored i niwed yn flaenoriaeth gwbl ganolog yn fy null plismona ac yn elfen sydd wrth wraidd Cynllun yr Heddlu a Throseddu, sy’n egluro’r ffordd rwyf i a’r Prif Gwnstabl yn mynd i’r afael â phlismona yn Ne Cymru. Dim ond drwy weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid ym mhob un o’n cymunedau i gael dealltwriaeth glir a gwir o faterion a’u heffaith ar unigolion y gellir cyflawni hyn, er mwyn canolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar a chamau gweithredu prydlon a chadarnhaol.
“Weithiau, nid yw dioddefwyr a thystion troseddau casineb yn barod i roi gwybod am ddigwyddiadau, ond rydym am iddynt wybod, heb unrhyw amheuaeth, fod yr heddlu yn Ne Cymru yn gwbl ymrwymedig i fynd i’r afael â’r materion hyn a darparu’r cymorth sydd ei angen ar ddioddefwyr, pan fydd ei angen arnynt. Mae amrywiaeth ein cymunedau yn cyfoethogi De Cymru ond ma troseddau casineb yn fath niweidiol o ganser sy’n tanseilio’r ymddiriedaeth, yr hyder a’r cydlyniant sy’n hanfodol i gymunedau diogel a hyderus. Mae’n difetha pob un ohonom, nid dim ond y dioddefwr a’r ymosodwr.
“Mae casineb yn seiliedig ar ragfarn a syniadau gwyrdroedig, ac mae’n rhaid eu dileu o’n cymunedau. Eleni, rhoddodd ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys gyfle i ni edrych o’r newydd ar ein hunain – drwy wynebu’r hyn sydd o’i le yn ein cymdeithas a thrwy werthfawrogi buddiannau cadarnhaol cymunedau sy’n dathlu amrywiaeth a gwahaniaeth. Bydd Heddlu De Cymru yn hyrwyddo’r gwerthoedd cadarnhaol hynny ac yn mynd i’r afael yn frwd â throseddau casineb pan fyddant yn digwydd drwy annog pobl i roi gwybod am droseddau, gweithredu arnynt a gweithio i gael gwared ar y rhagfarn sy’n gyfrifol am y troseddau eu hunain.”
Ychwanegodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Jenny Gilmer:
“Ni ddylid goddef troseddau casineb, ac ni chânt eu goddef, ond rydym yn gwybod nad yw digwyddiadau yn cael eu cofnodi’n ddigonol a byddwn yn annog unrhyw un sydd wedi dioddef i gysylltu â’r heddlu a rhoi gwybod am ei brofiad. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch cefnogi chi a dod ag unrhyw gyflawnwyr o flaen eu gwell. Drwy roi gwybod am droseddau casineb, rydych hefyd yn ein helpu i atal pobl eraill rhag dioddef.
“Byddwn hefyd yn atgoffa’r rhai sydd o’r farn ei bod yn dderbyniol targedu pobl eraill oherwydd pwy ydyn nhw fod troseddau casineb yn droseddau difrifol ac nad oes modd eu cyfiawnhau byth. Gall y rhai a ddyfernir yn euog o gyflawni troseddau casineb ddisgwyl wynebu canlyniadau difrifol am eu gweithredoedd.”
Gellir rhoi gwybod i Heddlu De Cymru am droseddau casineb a digwyddiadau casineb drwy ffonio 101 neu ar-lein.
Gall y rhai y mae troseddau casineb yn effeithio arnynt hefyd gysylltu â Ffocws Dioddefwyr De Cymru https://www.ffocwsdioddefwyrdecymru.org.uk / 0300 30 30 161 i gael cymorth arbenigol i ddioddefwyr a ariennir drwy Swyddfa’r heddlu a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu.