Stamp amser presennol: 23/06/26 15:50:07
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Heddlu De Cymru yn cyhoeddi rhybudd i’r rhai sy’n â chychwyn tanau glaswellt 'bwriadol a dinistriol'

Cynnwys y prif erthygl

Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 16:18 23/04/2020

Yn dilyn sawl achos o danau glaswellt mawr, sydd wedi peryglu ein cymunedau a’n cydweithwyr yn y gwasanaeth tân, mae Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru Andy Valentine wedi annog y rheini sy’n gyfrifol i ystyried canlyniadau eu gweithredoedd yn ofalus iawn.

Heddlu De Cymru yn cyhoeddi rhybudd i’r rhai sy’n â chychwyn tanau glaswellt 'bwriadol a dinistriol'

Dywedodd ACC Valentine, sy’n arwain ymateb yr heddlu i bandemig Coronafeirws: “Yn ogystal â chael effaith ddinistriol a hirdymor ar ein cefn gwlad a’n mynyddoedd, mae tanau glaswellt hefyd yn rhoi straen sylweddol ar ein gwasanaethau brys, yn enwedig ein gwasanaethau tân.

“O ystyried yr hinsawdd bresennol, mae’r gweithredoedd bwriadol, dinistriol a diesgus hyn hyd yn oed yn fwy annealladwy.

“Fel pob gwasanaeth rheng flaen a hanfodol arall, mae pandemig Coronafeirws wedi effeithio ar weithluoedd gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu hunain ac mae gweithredoedd bwriadol fel y rhain yn gofyn am gryn dipyn o adnoddau – adnoddau y gallai fod eu hangen rywle arall yn y gymuned.

“Yn syml, mae’r tanau hyn yn peryglu bywydau pobl, naill ai am eu bod yn agos at gartrefi neu am fod angen neilltuo adnoddau er mwyn mynd i’r afael â nhw.

“Mae hefyd yn peri risg gynyddol i’r rheini sy’n dioddef o Covid-19 neu unrhyw broblemau anadlu eraill, am fod y mwg a grëir ganddynt yn drwchus ac yn cael effaith sylweddol ar ansawdd yr aer.

“Byddwn yn annog y rheini sy’n cyflawni gweithredoedd difeddwl o’r fath i ystyried canlyniadau posibl eu gweithredoedd. Nid ydym ni na’n cydweithwyr yn y gwasanaeth tân byth yn goddef gweithredoedd o’r fath, ond o ystyried yr hinsawdd bresennol, maent yn gwbl warthus.

“Mae fy neges i unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r tanau hyn yn syml. Ystyriwch eich gweithredoedd, stopiwch nawr neu byddwch yn wynebu grym llawn y gyfraith.

“Mae tanau glaswellt yn peri risg ddifrifol i’r sawl sy’n gyfrifol ac eraill, a gall fod i gollfarn droseddol oblygiadau am weddill oes unigolyn. Mae cynnau tanau glaswellt yn peri ormod o risg.

“Gall ein cymunedau hefyd chwarae rhan fawr. Nid yw plant wedi’u heithrio rhag y cyfyngiadau a osodwyd gan y llywodraeth a hoffwn ofyn i rieni sicrhau bod eu plant yn dilyn y rheolau. Byddwn hefyd yn annog pawb i fod yn wyliadwrus – dylai unrhyw un sydd â phryderon neu wybodaeth roi gwybod am hynny ar unwaith.”

Gallwch gysylltu â Heddlu De Cymru drwy ffonio 101, neu 999 mewn argyfwng. Fel arall, gallwch gysylltu â Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Gwasanaethau partner
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.