Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
08:16 10/12/2020
Mae Heddlu De Cymru yn edrych o newydd ar lofruddiaeth gyrrwr tacsi yn ne Cymru, yn y gobaith y bydd datblygiadau yng ngalluoedd fforensig a newidiadau i deyrngarwch unigolion yn arwain at gyfiawnder dros ddeugain mlynedd ar ôl y digwyddiad.
Mae ditectifs yn Uned Adolygu Troseddau Arbenigol Heddlu De Cymru yn ymchwilio unwaith eto i achos John ‘Jack’ Armstrong, dyn 58 oed a gafodd ei lofruddio ym mis Hydref 1979 ar ôl iddo gasglu cwsmer o Gaerdydd yn ei dacsi.
Ar 5 Hydref anfonodd Jack, sef yr enw a ddefnyddid gan ei deulu a'i ffrindiau, neges dros y radio i gadarnhau iddo gasglu'r cwsmer o dafarndy yn y Tyllgoed, ond ni chafwyd unrhyw negeseuon pellach ganddo.
Daethpwyd o hyd i'w dacsi â gwaed drosto yn nes ymlaen y noson honno yn Lôn Tre-oes, Tre-oes, ger Ystâd Ddiwydiannol Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr.
Ond ni ddaethpwyd o hyd i'w gorff am dridiau, ryw 11 milltir i ffwrdd ar Gomin y Bont-faen. Roedd Mr Armstrong wedi dioddef anafiadau ofnadwy i'r pen.
Er gwaethaf yr ymholiadau helaeth a gynhaliwyd ar y pryd, gan gynnwys cymryd cannoedd o ddatganiadau ac archwilio cannoedd o eitemau, ni wyddys pwy laddodd Mr Armstrong.
Fel rhan o'r adolygiad, bydd yr heddlu yn ail-archwilio eitemau o'r newydd yn y gobaith y daw gwyddonwyr fforensig o hyd i DNA a allai roi modd i dditectifs adnabod y llofrudd a dod o hyd iddo.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Patrick Catto, pennaeth yr uned adolygu, ei fod yn gobeithio y byddai cyfleoedd ymchwilio newydd wedi codi yn sgil treigl amser, gan roi i deulu'r dioddefwr y cyfiawnder y mae'n ei haeddu, a'r teimlad bod y mater drosodd.
Dywedodd DCI Catto: “Ni chaiff unrhyw achos ei gau, ac rydym yn parhau'n ymrwymedig i'r gwaith o adolygu achosion na chawsant eu datrys o bryd i'w gilydd yn y gobaith y bydd datblygiadau ym maes gwyddoniaeth fforensig a thechnoleg yn rhoi llinell ymholi newydd i ni.
“Roedd yr ymchwiliad a gynhaliwyd yn 1979 yn un trylwyr, ac nid yw'r adolygiad hwn yn adlewyrchu ar ein cydweithwyr a fu'n ymwneud â'r achos ar y pryd. Fodd bynnag, mae gennym ddyletswydd i'r dioddefwr a'i deulu i sicrhau ein bod yn manteisio ar bob datblygiad gwyddonol sydd ar gael i ni er mwyn ceisio canfod ffordd ymlaen gyda'r achos hwn.
“Os yw'r llofrudd yn dal yn fyw, mae wedi bod yn byw gyda'r wybodaeth am yr hyn a wnaeth ers dros 40 o flynyddoedd. Yn ogystal, mae'n debygol bod rhywun yn gwybod pwy wnaeth hyn, ac mae teryngarwch pobl yn newid.
“Hoffwn apelio ar i unrhyw un sy'n credu ei fod yn gwybod pwy yw'r llofrudd gysylltu â ni. Rhaid bod cadw cyfrinach o'r fath wedi pwyso'n drwm ar rywun – mae'n bryd gwneud y peth iawn a chodi llais.”
Rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu ditectifs i gysylltu â'r Uned Adolygu drwy ffonio 101 gan ddyfynnu cyfeirnod digwyddiad 2000304349.
Gellir hefyd roi gwybod i ni ar-lein yn bit.ly/HDCRiportio.