Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Wrth i’r cyfnod clo lleol ddechrau yng Nghymru – pan fydd cyfyngiadau llymach ar waith ledled y wlad – mae Heddlu De Cymru yn annog ei gymunedau i barhau i chwarae eu rhan i gefnogi’r mesurau.
Drwy gydol y pandemig a’r cyfyngiadau amrywiol – gan gynnwys y cyfnodau clo lleol mwyaf diweddar a wnaeth effeithio ar saith ardal awdurdod lleol yr heddlu – mae’r cyhoedd wedi ymateb mewn ffordd gadarnhaol ar y cyfan, gan gydymffurfio a chefnogi’r rheolau.
Fodd bynnag, parhawyd i weld cnewyllyn bach yn mynnu torri’r rheolau a bu’n rhaid i’n swyddogion gymryd camau gorfodi i ddelio â nhw.
Dyma oedd gan y Prif Uwcharolygydd Andy Valentine, Comander Aur ymateb yr heddlu i’r coronafeirws, i’w ddweud: “Nod y cyfnod atal cenedlaethol yw cadw holl gymunedau Cymru yn ddiogel, a rhoi cyfle i wasanaethau’r GIG a’r cynllun Profi Olrhain Diogelu reoli ail don y pandemig cyn i ni weld mwy o bobl yn colli eu bywydau.
“Deallaf yn iawn fod meddwl am fwy o gyfyngiadau ar ein bywydau yn rhwystredig i bobl ac nad yw’n gwneud dim i godi calon rhywun, ond rhaid i mi annog pawb yn ein cymunedau i ddilyn y rheoliadau sy’n dod i rym heddiw.
“Fel y dywedodd ein Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn gynharach yn yr wythnos, ni fydd y cyfnod atal hwn yn gweithio heb i bob un ohonom ddilyn y rheolau ac, os bydd hynny’n digwydd, ni ddylai fod angen i’r heddlu orfodi’r rheoliadau.
“Fel pob heddlu yn y DU, mae’n well gennym weld pobl yn dewis cydymffurfio, ond os bydd unrhyw un yn mynd ati’n fwriadol i anwybyddu’r ddeddfwriaeth, a luniwyd i’w cadw nhw a phawb arall yn ddiogel, yna byddwn yn cymryd camau yn eu herbyn.
“Mae’r enghreifftiau a welir yn y fideo yn gwbl annerbyniol. Maent hefyd yn dangos diffyg parch tuag at y teuluoedd hynny sydd wedi colli anwyliaid, a staff y GIG sydd wedi gweithio’n ddiflino i drin y rhai sydd wedi dal y feirws hwn, sy’n beryglus o hyd.
“Pan fydd yr heddlu yn gorfod ymateb i honiadau o dorri rheolau COVID-19, mae’n golygu na all ganolbwyntio ar ei waith gwirioneddol bwysig, sef diogelu pobl sy’n agored i niwed a mynd i’r afael â throseddau difrifol a threisgar. Mae’r bobl hyn hefyd yn rhoi fy nghydweithwyr – dynion a menywod sy’n perthyn i’n cymunedau lleol – mewn mwy o berygl o ddal y coronafeirws.
“Wrth i’r cyfnod atal ddechrau, rwy’n annog pawb ledled y de i barhau i ddangos eu cefnogaeth. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y rheoliadau diweddaraf, sydd ar wefan Llywodraeth Cymru ac sydd wedi cael llawer o sylw yn y cyfryngau.
“Drwy eu dilyn, gall pob un ohonom chwarae ein rhan yn diogelu ein cymunedau a’r Gwasanaeth Iechyd.”