Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:02 18/12/2020
Mae'r gŵr 61 oed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar yr A48 ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Iau 17 Hydref wedi'i enwi'n Donald Mitchell o Sant-y-Brid ym Mro Morgannwg.
Mae teulu Mr Mitchell wedi talu teyrnged iddo, gan ddweud: “Roedd Donald yn briod â Siân am 34 mlynedd ac yn dad i dair o ferched, Hannah, Eluned a Siriol.
"Astudiodd lyfrgellyddiaeth yn y brifysgol a gweithiodd mewn nifer o rolau cyn dod yn llyfrgellydd yn Ysgol Undebol Theoleg, Bryntirion, naw mlynedd yn ôl.
"Roedd Donald yn feiciwr brwd ac roedd yn edrych ymlaen at dreulio amser gyda'i deulu ar ôl ymddeol y flwyddyn nesaf. Mae ei farwolaeth drist yn golled enfawr i'w deulu, nad ydynt yn galaru'n ddiobaith."
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio am unrhyw dystion i'r gwrthdrawiad, a ddigwyddodd am oddeutu 5.15pm ddydd Iau 17 Rhagfyr ar yr A48 ger Trelales, Pen-y-bont ar Ogwr, wrth ymyl ei chyffordd â Wells Street.
Gwrthdarodd beic Mr Mitchell a Volvo S40 glas, a bu farw Mr Mitchell yn y fan a'r lle.
Cafodd dyn 66 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus. Mae'n cael ei gadw yng ngorsaf heddlu Queen's Road, lle mae'n cael ei holi.
Mae swyddogion sy'n ymchwilio i'r digwyddiad yn apelio am i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu'r ffordd yr oedd y Volvo yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad, neu unrhyw fodurwyr a aeth heibio cyn i'r gwrthdrawiad ddigwydd, y gall fod ganddynt ddeunydd fideo camera dashfwrdd, gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2000456245.