Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:32 18/12/2020
Mae teulu dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A4061 Heol Rhigos yn Nhreherbert wedi talu teyrnged iddo.
Bu farw Jeff Rawle ar safle'r gwrthdrawiad rhwng ei gar Mazda glas ac ambiwlans, a ddigwyddodd ychydig ar ôl 7pm nos Iau, 17 Rhagfyr.
Cafodd y teithiwr yn ei gar anafiadau difrifol ac mae'n dal yn yr ysbyty, a chafodd gyrrwr yr ambiwlans driniaeth am fân anafiadau.
Mewn teyrnged i'r dyn 47 oed, dywedodd ei deulu: “Roedd Jeff yn fab ac yn frawd cariadus, ac yn dad ffyddlon i'w ferch, Gabby. Roedden nhw mor agos fel tad a merch, ac roedd hi'n meddwl y byd ohono. Mae Gabby mewn galar sydd y tu hwnt i gysur yn dilyn marwolaeth drasig ei thad. Byddai Jeff bob amser yn galw Gabby'n ‘Daddy's girl’ a bydd yr atgofion hyn yn aros gyda ni am byth.
“Mae ei farwolaeth sydyn wedi gadael bwlch enfawr yn ein calonnau a'n bywydau ac rydyn ni fel teulu wedi ein llorio'n llwyr wrth i ni geisio gwneud synnwyr o'r hyn sydd wedi digwydd.
“Roedd Jeff yn hanu o ardal Treherbert yn y Rhondda, ac roedd cymaint o bobl mor hoff ohono. Bydd colled fawr ar ei ôl.”
Mae swyddogion o’r Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau’r gwrthdrawiad, a hoffent siarad ag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu’r ffordd roedd y naill gerbyd neu'r llall yn cael ei yrru cyn hynny.
Anogir unrhyw un sydd â ffilm ar gamera dashfwrdd neu ffôn symudol a allai helpu gyda'r ymchwiliad i gysylltu â'r heddlu hefyd.
Ffoniwch 101, gan ddyfynnu cyfeirnod 2000456336.