Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i wrthdrawiad traffig ffyrdd angheuol a ddigwyddodd ar yr A4061 Heol Rhigos, Treherbert neithiwr (nos Iau, 17 Rhagfyr).
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i safle'r gwrthdrawiad rhwng car Mazda glas ac ambiwlans ychydig ar ôl 7pm.
Bu farw gyrrwr y Mazda, a oedd yn ddyn lleol 47 oed, yn y fan a'r lle. Cafodd dyn 44 oed a oedd yn teithio yn y sedd flaen ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru lle mae mewn cyflwr difrifol ond sefydlog ar hyn o bryd.
Aethpwyd â gyrrwr yr ambiwlans, sy'n 52 oed, i Ysbyty Brenhinol Morgannwg lle cafodd driniaeth am fân anafiadau. Mae wedi cael ei ryddhau ers hynny.
Mae ymholiadau’n parhau i gadarnhau amgylchiadau’r gwrthdrawiad, a hoffai swyddogion o’r Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol siarad ag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu’r ffordd roedd y ddau gerbyd yn cael eu gyrru cyn hynny.
Anogir unrhyw un sydd â ffilm ar gamera dashfwrdd neu ffôn symudol a allai helpu gyda'r ymchwiliad i gysylltu â'r heddlu hefyd.
Ffoniwch 101, gan ddyfynnu cyfeirnod 2000456336.