Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae heddluoedd y DU yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Match Group, er mwyn mynd i’r afael â thwyll rhamant, gyda chyfuniad o godi ymwybyddiaeth a gorfodaeth, wedi’u cydlynu gan Heddlu Dinas Llundain.
Mae’r ymgyrch amlasiantaeth, sy’n cael ei chynnal drwy gydol mis Hydref, yn anelu i godi ymwybyddiaeth am dwyll rhamant. Rhoddir cyngor gwarchod eglur a diamwys i’r cyhoedd, yn dilyn cynnydd o 26 y cant mewn adroddiadau i Action Fraud yn y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwcharolygydd Dros Dro Alex Rothwell o Heddlu Dinas Llundain:
“Mae twyll rhamant yn drosedd ddinistriol sy’n effeithio dioddefwyr yn ariannol ac yn emosiynol. Mae hi’n drosedd yr ydym ni mewn plismona ledled y DU wedi ymrwymo i fynd i’r afael â hi gyda chymorth gan bartneriaid allweddol. Drwy’r ymgyrch hon rydym eisiau grymuso pobl i ddeall yr hyn i gadw llygad allan amdano a theimlo’n hyderus i’n hysbysu ni os ydynt wedi dioddef twyll.
“Mae troseddwyr yn arbenigo mewn dynwared pobl. Maent yn treulio oriau yn ymchwilio eich hanes ar gyfer eu sgamiau, yn enwedig wrth gyflawni twyll rhamant. Rydym yn atgoffa pawb i bwyllo a meddwl. Gwirionwch am yr unigolyn nid y proffil. Fe all eich gwarchod chi a’ch arian.”
Mae twyll rhamant, neu dwyll paru, yn digwydd pan ydych wedi cyfarfod eich enaid hoff cytûn ar-lein ond maent yn defnyddio proffil ffug i ffurfio perthynas gyda chi. Maent yn magu eich ymddiriedaeth dros nifer o wythnosau neu fisoedd ac yn eich gwneud i gredu eich bod mewn perthynas gariadus a gofalgar. Fodd bynnag, nod y troseddwr yn y diwedd yw cael eich arian neu eich gwybodaeth bersonol yn unig.
Rhwng mis Awst 2019 a mis Awst 2020, fe wnaeth Action Fraud dderbyn dros 400 o adroddiadau’r mis gan ddioddefwyr twyll rhamant yn y DU. Roedd colledion a hysbyswyd gan ddioddefwyr yn ystod y cyfnod hwn yn gyfanswm o £66,335,239. Mae hyn gyfwerth â cholled o ychydig dros £10,000 i bob dioddefwr ar gyfartaledd.
Yn ystod misoedd Mehefin, Gorffennaf ac Awst 2020, fe wnaeth Action Fraud dderbyn mwy na 600 o adroddiadau’r mis am dwyll rhamant. Mae hyn yn dangos fod pobl efallai wedi cyfarfod, ac wedi dechrau siarad â thwyllwyr rhamant yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol a achoswyd gan achosion o’r coronafeirws.
Dywedodd Diana Fawcett, Prif Weithredwr yr elusen annibynnol Cymorth Dioddefwyr:
“Mae dioddefwyr twyll rhamant yn aml yn beio eu hunain, ond mae’n bwysig deall fod hon yn drosedd hynod soffistigedig, ac y gall bron i unrhyw un gael eu targedu. Gall dioddefwyr deimlo eu bod nid yn unig wedi colli arian, ond wedi colli cymar neu berthynas roeddent yn meddwl roedd ganddynt.
“Roedd cyfyngiadau symud yn golygu na allai pobl gyfarfod yn bersonol am nifer o fisoedd, a arweiniodd at lawer yn ceisio ffurfio cysylltiadau newydd ar-lein. Tra gall defnyddio’r rhyngrwyd fod yn ffordd wych o gyfarfod pobl a ffurfio perthynas, mae risg mawr hefyd o gael eich denu i dwyll rhamant gan fod twyllwyr yn gwybod sut i fanteisio ar ddyhead pobl am gyswllt â phobl. Yn anffodus, rydym wedi gweld fod amgylchiadau a achosir gan y coronafeirws mewn gwirionedd yn cael eu defnyddio gan dwyllwyr fel ‘bachyn’ i ddwyn arian. Er enghraifft, mae rhai twyllwyr wedi dweud celwydd eu bod angen triniaeth feddygol, neu gostau teithio brys er mwyn gadael gwlad, neu arian i ymdopi ar ôl colli swydd ffug yn sgil y pandemig.
“Mae’n bwysig bod yn ymwybodol nad yw pawb yn ddilys.”
Y pum llwyfan uchaf lle gwnaeth dioddefwyr hysbysu eu bod wedi dod ar draws twyllwyr rhamant yn gyntaf oedd Facebook, Plenty of Fish, Instagram, Tinder a Match.com.
Fel rhan o’r ymgyrch mae’r Match Group, sy’n berchen ar OK Cupid, Plenty of Fish, Tinder a Match.com, yn cynnal hysbysebion gwarchod rhag twyll rhamant drwy gydol mis Hydref ar y llwyfannau hyn. Mae hyn er mwyn hysbysu eu defnyddwyr ar sut i weld yr arwyddion o dwyll rhamant a sut i warchod eu hunain ar-lein.
Adnabod yr arwyddion | Gwarchodwch eich hun |
Rydych wedi dechrau perthynas gyda rhywun ar-lein ac maent yn datgan eu cariad atoch yn eithaf sydyn. Efallai eu bod yn siarad am briodi neu gerrig milltir eraill mewn perthynas fel prynu tŷ gyda’ch gilydd. Mae llawer o dwyllwyr rhamant yn dweud eu bod dramor felly fe wnânt honni mai cam mawr yn eich perthynas fyddai iddynt ddychwelyd i’r DU i fod gyda chi. Fe wnânt honni eu bod dramor oherwydd eu bod mewn gwaith milwrol neu feddygol, neu gyflawni gwaith elusennol pwysig. Mae hyn yn eu cynorthwyo i greu darlun ohonynt fel rhywun arwrol a dibynadwy, ac yn rhoi esgus iddynt ddefnyddio codau deialu rhyngwladol neu gyswllt rhyngrwyd gwael. | Osgowch rannu gormod o fanylion personol wrth siarad ar-lein â rhywun nad ydych erioed wedi’u gweld yn bersonol, gan y gall arwain at eich hunaniaeth yn cael ei ddwyn. Mae hyn yn cynnwys datgelu eich enw llawn, dyddiad geni a chyfeiriad cartref – hyd yn oed os ydych yn ei wneud am resymau diniwed, fel bod eich cymar eisiau anfon blodau neu anrheg atoch. |
Maent yn gwneud esgusodion yn gyson pam na allent gael sgwrs fideo neu gyfarfod wyneb yn wyneb. Maent yn ceisio symud eich sgwrs o’r llwyfan y gwnaethoch gyfarfod â nhw’n wreiddiol. | Arhoswch ar wasanaeth negeseuo’r wefan hyd nes y cyfarfyddwch yn bersonol. Mae troseddwyr eisiau cyfnewid i lwyfannau eraill sydd ddim yn cael eu rheoleiddio cymaint ac sydd ag amgryptiad gwell, fel nad oes tystiolaeth ohonynt yn gofyn i chi am arian. Pa bynnag reswm rydych yn ei gael am i symud o’r wefan lle gwnaethoch gyfarfod, os yw’r unigolyn arall yn ddilys, fe wnânt dderbyn eich penderfyniad i aros ar y llwyfan hyd nes y gwelwch eich gilydd yn bersonol. |
Pan maent yn gofyn am eich cymorth ariannol, bydd ar gyfer argyfwng brys. Bydd y rheswm yn rhywbeth emosiynol, sy’n cyffwrdd eich calon. Fe wnânt ddadlennu am broblem, neu am rywbeth sy’n eu poeni er mwyn ymddangos yn fregus a gwneud i chi deimlo drostynt. Efallai y byddant yn mynd yn amddiffynnol os ydych yn gwrthod cynorthwyo neu eich gwneud i deimlo’n euog a chyfrifol am yr argyfwng brys maent yn honni y gallech fod wedi’i osgoi. | Mae gan y mwyafrif o lwyfannau ar-lein offeryn hysbysu y gallwch eu defnyddio os ydych yn amau fod rhywun ar-lein yn defnyddio lluniau nad ydynt yn eiddo iddyn nhw, os ydych yn amau eu hymddygiad, neu eu bod wedi gofyn i chi am arian. Mae hysbysu am eu proffil defnyddiwr yn golygu y gellir ei atal, sy’n cynorthwyo i warchod pobl eraill. |
Maent yn dweud wrthych chi am gadw eich perthynas yn breifat a mynnu nad ydych i drafod dim gyda’ch ffrindiau a’ch teulu. Mae hyn hefyd yn cynnwys peidio trafod yr argyfwng maent ynddo sydd angen arian â neb. Fe wnânt eich argyhoeddi fod hyn yn rhan o’r preifatrwydd arferol sy’n ffurfio perthynas iach. |
Waeth pa mor hir rydych wedi bod yn siarad â rhywun ar-lein a waeth faint ydych yn ymddiried ynddynt, os nad ydych wedi’u cyfarfod yn bersonol, peidiwch â/ag: • anfon unrhyw arian atynt |
Dywedodd Justine Sacco, Prif Swyddog Cyfathrebiadau Match Group:”Mae Match Group yn falch o gefnogi’r fenter bwysig hon gyda heddluoedd y DU.
“Rydym eisiau i holl aelodau ein cymuned deimlo’n ddiogel ar ein apiau a theimlo’n barod i warchod eu hunain rhag sgamiau rhamant. Edrychwn ymlaen at barhau’r gwaith pwysig hwn, yn fewnol wrth ddiweddaru ein technolegau atal twyll yn barhaus ac yn allanol drwy ein partneriaethau gyda rhai sy’n gorfodi’r gyfraith, llywodraethau a sefydliadau dim elw.”
Yn ystod mis Hydref, bydd Heddlu Dinas Llundain, prif heddlu twyll cenedlaethol, yn cydlynu gorfodaeth ledled y DU a thramor er mwyn targedu, ac arestio troseddwyr a amheuir o gyflawni twyll rhamant yn y diwedd. Mae hyn yn creu partneriaethau rhwng Heddlu Dinas Llundain, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a’u cyfatebwyr yn Ghana, er mwyn anfon arian a anfonwyd at gyfrifon banc yn Ghana yn ôl at ddioddefwyr twyll yn y DU. Drwy Fiwro Cudd-wybodaeth Twyll Cenedlaethol Heddlu Dinas Llundain, mae heddluoedd y DU yn awr yn gallu anfon atgyfeiriadau cudd-wybodaeth at awdurdodau Ghana lle maent wedi nodi rhai o dan amheuaeth yn Ghana gyda chysylltiad â’r wlad. Mae cydweithrediad rhyngwladol pellach wedi’i ddatblygu hefyd gydag awdurdodau yn Adran Gyfiawnder yr UD, Cangen Gwarchod Defnyddwyr a’u Llu Ymosod Twyll ar Bobl Hŷn Rhyngwladol.
Fel rhan o’r ymgyrch mae Heddlu Dinas Llundain hefyd yn gweithio gyda chwmnïau trosglwyddo arian fel Western Union a MoneyGram. Gwneir hyn er mwyn cyflwyno menter a gyflwynwyd gyntaf gan Heddlu Sussex, ledled y DU i gyd, lle gellir rhwystro unrhyw drosglwyddiad arian o dramor os yw’r awdurdodau’n amau ei fod o ganlyniad i dwyll rhamant. Gall yr un sy’n derbyn y taliad gael eu gwahardd rhag defnyddio’r gwasanaeth, sy’n golygu na allent bellach dderbyn unrhyw daliadau ac ni fydd dioddefwyr yn gallu ceisio anfon arian atynt. Mae hyn yn dilyn cydweithio agos rhwng heddluoedd y DU a’r diwydiant arian a bancio am nifer o flynyddoedd, gan warchod dioddefwyr twyll drwy’r Protocol Bancio.