Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae mwy na 60 cilo o gocên, crac cocên a heroin â gwerth stryd o tua £6 miliwn a £2,500,000 mewn arian parod wedi cael eu hatafaelu mewn cyrchoedd ledled de Cymru yn sgil datblygiad enfawr gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn y DU lle gwnaethant drechu gwasanaeth cyfathrebu byd eang wedi’i amgryptio a ddefnyddiwyd yn benodol gan droseddwyr.
Dros y deufis diwethaf, mae Tarian, sef Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol De Cymru, wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys heddluoedd De Cymru, Gwent a Dyfed Powys, a’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol i nodi a thargedu grwpiau troseddu cyfundrefnol a delwyr cyffuriau unigol yn y rhanbarth.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dave Thorne, sy’n gyfrifol am Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian:
“Mae Ymgyrch Venetic wedi bod yn llwyddiant ysgubol ledled y DU, gyda mwy na dwy dunnell o gyffuriau a miliynau o bunnoedd o arian parod wedi’u hadfer, a channoedd o bobl wedi’u harestio, eu heuogfarnu a’u cadw yn y ddalfa hyd yn hyn.
“Yn lleol, mae Tarian, gan weithio’n agos gyda thri heddlu de Cymru, wedi gweithredu 38 o warantau ac mae 16 o bobl wedi cael eu harestio, eu heuogfarnu a’u cadw yn y ddalfa hyd yn hyn, gyda nifer o rai eraill yn destun ymchwiliad.
“Mae swyddogion wedi atafaelu 60 kg of gocên, crac cocên a heroin â gwerth stryd amcangyfrifedig o £6,000,000.
“Yn ogystal â hynny, mae mwy na £2.5 million mewn arian parod hefyd wedi cael ei atafaelu.
“Nid oes lle i gyffuriau anghyfreithlon yn ein cymdeithas, a byddwn yn parhau i gydweithio i dargedu’r rhai hynny y mae eu gweithgareddau troseddol yn amharu ar fywydau cymunedau de Cymru.
“Rydym yn ymrwymedig i darfu ar grwpiau troseddu cyfundrefnol a’u chwalu, gan ddod â phobl gerbron y llys a chael gwared ar gyffuriau o’n strydoedd.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am achosion o gyflenwi cyffuriau yn y gymuned ffonio’r heddlu ar 101 neu Crimestoppers, yn ddienw, ar 0800 555111. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.