Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw, daeth torf fach at ei gilydd, gan gadw pellter cymdeithasol, ar gyfer gwasanaeth y Cofio wedi’i arwain gan Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Jeremy Vaughan, a’i weinyddu gan Gaplan yr Heddlu, y Parchedig Glynne James. Cynhaliwyd y gwasanaeth ym mhencadlys yr Heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“Fel arfer, mae gwasanaeth blynyddol y Cofio yn gyfle i ni ddod at ein gilydd fel heddlu i gofio’r rhai a fu farw yn y rhyfeloedd, yn ogystal â’n cydweithwyr a fu farw wrth wasanaethu’r heddlu a’n cymunedau.
“Er nad ydym wedi gallu cynnal ein gwasanaeth yn y ffordd arferol eleni, roeddem yn ymrwymedig i nodi’r diwrnod a chydnabod aberth y rhai rydym wedi’u colli gyda dwy funud o dawelwch gyda chydweithwyr, ffrindiau a’u teuluoedd.
“Yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol, roedd y seremoni eleni hefyd yn talu teyrnged i aberth swyddogion yr heddlu yn ein heddluoedd rhagflaenorol a fu’n gwasanaethu yn y ddau Ryfel Byd, yn arbennig y rhai a aberthodd eu bywydau drosom.”
Bu farw cyfanswm o 93 o swyddogion yr heddlu a wasanaethodd gyda’n heddluoedd rhagflaenol yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu farw 48 arall yn yr Ail Ryfel Byd. Roeddent yn gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol, y Fyddin a’r Awyrlu Brenhinol, yn ogystal â’r Llynges Fasnach. Bu farw rhai ohonynt ar ddyletswydd fel swyddogion yr heddlu.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd y Rhingyll William Bolton Flitter a’r Cwnstabl Jack Harold Jenks o Heddlu’r Fwrdeistref eu lladd wrth i’r dref gael ei bomio.
Yn y Rhondda, roedd Cwnstabl y Rhyfel Wrth Gefn, William George Davies, a’r Cwnstabl Gwirfoddol, Clifford Stanley Higgs, ymhlith y rhai a fu farw wrth i fomiau’r gelyn syrthio ar Gwmparc.
Rydym yn cofio pob un ohonynt.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Vaughan:
“Mae cyfnod y Cofio yn atgoffa Heddlu De Cymru o bwysigrwydd teulu’r heddlu, ac yn bwysicach fyth, yn gyfle i sicrhau na chaiff eu cyfraniadau eu hanghofio fyth.
“Er gwaethaf yr heriau y mae Covid wedi’u cyflwyno, mae’n galonogol gweld cymaint o bobl ledled ein cymunedau sydd, fel ni, wedi dod o hyd i’w ffyrdd unigryw a diogel eu hunain o ddangos eu gwerthfawrogiad a myfyrio ar yr aberth a wnaed gan gynifer.”