Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:00 13/11/2020
Mae dros 50 o bobl a aeth i barti yng Nghaerdydd wedi cael eu dirwyo am fynd yn groes i gyfyngiadau’r coronafeirws.
Cafodd Heddlu De Cymru ei hysbysu bod nifer fawr o bobl wedi ymgasglu mewn neuadd breswyl nos Wener (6 Tachwedd), a phan gyrhaeddodd y swyddogion roedd cerddoriaeth uchel yn cael ei chwarae a dwsinau o unigolion y tu mewn.
Cymerwyd manylion pob unigolyn ar y noson, ac ers hynny mae’r swyddogion wedi bod yn cydweithio’n agos â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd i gyflwyno 52 o hysbysiadau cosb benodedig.
Dywedodd Uwcharolygydd Caerdydd a’r Fro, Jason Rees: “Mae’n anffodus bod ein swyddogion wedi gorfod dirwyo’r unigolion a wnaeth anwybyddu rheoliadau’r Coronafeirws mor amlwg – ac yn bwysicach oll, eu hiechyd eu hunain, eu cyfoedion a’r gymuned ehangach – naill ai drwy gynnal y parti hwn neu fod yn bresennol ynddo.
“Gwyddom fod y cyfnod hwn wedi bod yn anodd i’r myfyrwyr sydd wedi dod i astudio yng Nghaerdydd a bod y pandemig presennol wedi cael effaith enfawr ar y profiadau y byddent fel arfer wedi eu cael yn ein prifddinas fywiog.
“Rydym wedi bod yn ymwybodol ac yn gydymdeimladol iawn o’r sefyllfa, ac wedi gweithio’n agos â’n prifysgolion lleol a phoblogaeth y myfyrwyr i’w helpu i lywio a deall y rheolau a gwneud penderfyniadau cyfrifol.
“Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i blismona drwy gydsyniad ac wedi gwneud popeth o fewn ein gallu er mwyn sicrhau mai dim ond pan fetho popeth arall y byddwn yn cymryd camau gorfodi. Rydym wedi cydweithio â’r prifysgolion i greu Contractau Ymddygiad Derbyniol i fyfyrwyr ac wedi treulio cyfnod sylweddol o amser yn canolbwyntio ar ymgysylltu, esbonio ac annog.
“Fodd bynnag, mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae a bu’n rhaid i bawb aberthu er mwyn helpu i arafu lledaeniad y feirws.
“Rydym wedi’i gwneud yn glir o’r dechrau y byddwn yn cymryd camau gorfodi lle y bo angen a lle bo hynny’n gymesur, ac mae achosion amlwg o fynd yn groes i’r rheoliadau wedi ein gorfodi i gymryd camau o’r fath naill ai’n syth neu drwy ymchwiliad dilynol.”