Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gyda’r Nadolig yn agosáu, mae Heddlu De Cymru’n annog ei gymunedau i barhau i wneud y peth iawn drwy gydymffurfio â rheolau Llywodraeth Cymru i fwynhau dathliadau’r ŵyl yn ddiogel.
Gan fod cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 wedi cael eu gosod yng Nghymru gyfan erbyn hyn, ac yn sgil y cynnydd mewn achosion o’r haint, bydd ein swyddogion yn mynd ati i dargedu’r sawl sy’n amlwg yn torri’r rheolau ac sy’n parhau i wneud hynny.
Er bod y mwyafrif health o’r cyhoedd yn helpu i gadw Cymru’n ddiogel, cyflwynodd Heddlu De Cymru 180 o hysbysiadau cosb benodedig yr wythnos ddiwethaf*, ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn ymwneud â phartïon mewn tai a thorfeydd anghyfreithlon.
Mae swyddogion hefyd yn stopio traffig ar hap ledled yr ardal er mwyn annog a sicrhau cydymffurfiaeth â’r cyfyngiadau teithio Rhybudd Lefel 4 a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ar y penwythnos. Caiff hyn ei wneud ledled yr ardal, gan ganolbwyntio’n benodol ar yr ardaloedd risg uchel.
Cafodd 78 o gerbydau eu stopio ddydd Mawrth, ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn gallu dangos eu bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth. Rhoddwyd rhybuddion i saith gyrrwr, a chyflwynwyd un hysbysiad cosb benodedig.
Gwnaeth y Prif Uwcharolygydd, Andy Valentine, sy’n arwain ymateb Heddlu De Cymru i’r pandemig, annog y cyhoedd i barhau i wneud y peth iawn dros y diwrnodau nesaf er mwyn lleihau’r risg iddyn nhw eu hunain a’u hanwyliaid, y gymuned ehangach a swyddogion yr heddlu.
“Mae presenoldeb y feirws wedi cynyddu’n sylweddol yn ein cymunedau dros yr wythnosau diweddar, ac mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae i ddiogelu ein hunain, ein cymunedau a’r GIG, sydd o dan bwysau aruthrol yn Ne Cymru ar hyn o bryd.
“Bydd y Nadolig yn wahanol i bawb eleni fwy na thebyg, ac felly nid oes esgus i fynd yn groes i’r rheoliadau a pheri risg i eraill.
“Mae'r cyfnod hwn yn anodd i bawb; bydd llawer o'n swyddogion i ffwrdd o'u teuluoedd dros gyfnod y Nadolig, yn mynd i'r afael â throseddau ac yn ymateb i anghenion rhai o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
“Maent yn gwybod pa mor anodd yw gorfod bod ar wahân i'w teuluoedd eu hunain dros y Nadolig, ac nid ydynt am ddifetha'r achlysur i neb.
“Nid ydynt am wynebu mwy o risg ychwaith gan bobl sy'n torri'r rheolau, felly, rwy'n apelio eto am gefnogaeth y cyhoedd i wneud y peth iawn fel na fydd yn rhaid i ni orfodi'r ddeddfwriaeth.”
* Mae’r ffigwr hwn yn ymwneud â’r saith diwrnod a ddaeth i ben ddydd Sul, 20 Rhagfyr.