Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:57 14/10/2020
Wedi drysu ynghylch Deddfwriaeth y Coronafeirws? Ddim yn siŵr am yr hyn y gallwch ei wneud a’r hyn na allwch ei wneud mewn ardal dan gyfyngiadau symud? Os byddwch yn torri’r gyfraith, beth yw’r cosbau posibl?
Rydym yn ymwybodol bod camwybodaeth ddiwerth yn peri dryswch ac rydym yn awyddus i esbonio’r sefyllfa er mwyn sicrhau bod ein cymunedau’n gallu byw eu bywydau’n hyderus yn unol â chyfyngiadau’r gyfraith.
Ein cyngor sylfaenol yw dilyn @LlywodraethCym bob amser er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r rheolau a’r canllawiau diweddaraf. Mae ein gwefan hefyd yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth a gaiff ei diweddaru’n rheolaidd.
Ffeithiau allweddol a chyngor ar y ddeddfwriaeth gyfredol yn Ne Cymru:
✔️ Rydym bob amser wedi rhoi blaenoriaeth i ymgysylltu â’r cyhoedd i’w helpu i ddeall ac ymdopi â’r rheolau. Rhoddir camau gorfodi ar waith pan fetho popeth arall.
✔️ Gallwn roi dirwyon. Bydd y rhain yn £60 i ddechrau ac yn dyblu ar gyfer bob achos pellach o dorri’r rheolau. Gall dirwyon yng Nghymru godi i £1,920 ar gyfer troseddwyr mynych.
✔️ Mae’r pwerau plismona presennol ar gael i ni o hyd i’n helpu i blismona yn ystod y pandemig. Er enghraifft, gellir stopio cerbydau gan ddefnyddio’r ddeddfwriaeth draffig bresennol, a gallwn wneud atgyfeiriadau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a chyhoeddi hysbysiadau gwasgaru Adran 35.
✔️ Gall methu â dilyn gofynion hunanynysu arwain at ddirwy gwerth £1,000.
✔️ Gellir rhoi dirwyon gwerth hyd at £10,000 i drefnwyr digwyddiadau cerddorol heb drwydded – ac mae ein heddlu eisoes wedi gwneud hynny.
❌ Nid ydym yn rhoi dirwyon gwerth £1,000 i bobl sydd wedi teithio y tu allan i’w bwrdeistref sirol i siopa neu am unrhyw reswm arall, ac nid ydym wedi gwneud hynny. Mae hyn yn gamwybodaeth. Fodd bynnag, byddem yn atgoffa’r cyhoedd bod y ddeddfwriaeth gyfredol yn nodi y dylent aros o fewn ardal eu hawdurdod lleol, oni bai bod ganddynt esgus rhesymol. Gallai methu â gwneud hynny arwain at y camau gorfodi uchod.
Gwyddom fod y ddeddfwriaeth wedi newid yn rheolaidd dros y misoedd diwethaf – gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y wybodaeth lawn o ffynhonnell ddibynadwy.