Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:19 24/12/2020
Keiron Hassan a Kamal Legall
Mae dau ddyn wedi cael eu hanfon i'r carchar am 24 mlynedd ar ôl eu cael yn euog o ymgais i lofruddio a meddu ar ddryll bach heb awdurdod.
Gwadodd Keiron Hassan, 32 o Drelái, a Kamal Legall, 26 o'r Tyllgoed, eu bod wedi ceisio llofruddio Taylor Patterson, 22, yn Harris Avenue ar 13 Ebrill 2020.
Yn dilyn treial pum wythnos y Llys y Goron Casnewydd a ddaeth i ben ym mis Tachwedd, dyfarnwyd y cefndryd yn euog o'r holl gyhuddiadau.
Dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd, Mark O’Shea, o Dîm Ymchwiliadau Troseddau Mawr Heddlu De Cymru:
“Gwaethygodd yr achos hwn o drais i raddau difrifol y tu allan i siop lle roedd aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yno.
“Mae'r defnydd o arfau tanio yn anghyffredin iawn yn Ne Cymru a phan fyddwn yn dod ar eu traws, fel y digwyddodd gyda Hassan a Legall, rydym yn benderfynol o geisio dal y rheini sy'n gyfrifol amdanynt.
“Rwy'n gobeithio bod y dedfrydau a roddwyd i'r ddau unigolyn hyn yn anfon neges glir i'r sawl sy'n bwriadu dod â'r math hwn o drais i'n strydoedd. Byddwn yn cymryd pob cam yn eich erbyn ac yn eich anfon i'r carchar.
“Pan saethodd Hassan a Legall y dioddefwr roeddent yn ei dargedu, ni roddwyd unrhyw ystyriaeth i'r aelodau eraill o'r gymuned, gan gynnwys menyw feichiog a mam ifanc â phram a oedd y tu allan i siop Lifestyle Express ar y diwrnod hwnnw.
“Yna, gwnaethant guddio dryll a oedd wedi'i lwytho wrth ymyl maes chwarae plant yn Nhrebiwt. Mae meddwl ar y posibilrwydd y byddai plentyn bach yn dod o hyd iddo yn erchyll.”
Roedd yr ymchwiliad yn cynnwys:
• Ditectifs yn casglu gwerth oriau o fideos CCTV.
• Chwiliad o olion bysedd gan swyddogion chwilio arbenigol, a arweiniodd at ganfod y dryll ychydig wythnosau'n ddiweddarach.
Ychwanegodd y Ditectif Brif Arolygydd O'Shea:
“Cafwyd anghydfod rhwng Hassan a Legall a Taylor Patterson, am resymau nad ydym yn ymwybodol ohonynt. Er na fyddwn yn dod o hyd i'r gwir reswm dros ei saethu o bosibl, mae eu gweithredoedd, a roddodd fywyd Taylor Patterson yn ogystal â'r gymuned ehangach mewn perygl, yn gwbl annerbyniol.”
Mae Heddlu De Cymru'n diolch i bawb a helpodd gyda'r ymchwiliad.