Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:52 18/11/2020
Mae myfyrwraig 18 oed y daethpwyd o hyd iddi wedi cwympo i'r llawr mewn neuadd breswyl yng Nghaerdydd ar y penwythnos, wedi marw.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Lys Talybont yn Cathays lle roedd preswylwyr y fflat wedi dod o hyd i'r fyfyrwraig ar y llawr am tua 12.40am ddydd Sadwrn 14 Tachwedd.
Aethpwyd â hi i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, lle bu farw neithiwr.
Mae ei theulu wedi teithio i Dde Cymru ac maent yn cael cymorth ar hyn o bryd.
Mae dyn 23 oed o Gaerdydd wedi cael ei gyhuddo o droseddau sy'n ymwneud â chyffuriau ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd heddiw.
Mae Lanoi Lidell o Bentwyn, yn cael ei gyhuddo o gynnig cyflenwi Cetamin a Chocên ar 15 Tachwedd 2020, cynnig cyflenwi Cetamin ac MDMA rhwng 31 Hydref a 9 Tachwedd 2020, cyflenwi MDMA a chyflenwi Cetamin.
Mae ei marwolaeth yn dilyn marwolaeth dyn 25 oed a oedd wedi cwympo i'r llawr ar Taff Street, Tongwynlais tua 12.15am ddydd Sul, Tachwedd 15.
Nid oes unrhyw beth i awgrymu bod cysylltiad rhwng y marwolaethau hyn ar hyn o bryd ac nid yw achos marwolaeth y naill na'r llall wedi'i gadarnhau eto.
Fodd bynnag, mae ditectifs yn cadw meddwl agored ac yn ymchwilio i'r posibilrwydd y gallai'r cyffur Cetamin fod yn ffactor.
Atgoffir defnyddwyr cyffuriau a rheoleiddir unwaith eto y dylent fod yn ymwybodol na allant byth fod 100% yn sicr o'r hyn y maent yn ei gymryd.
Mae'r cyffuriau hyn yn anghyfreithlon ac mae'n ddigon posib eu bod yn cynnwys cymysgedd o gynhwysion gwenwynig.
Yn dilyn y farwolaeth yn Nhongwynlais, mae saith unigolyn yn dal i fod wedi'u rhyddhau ac yn destun ymchwiliad dan amheuaeth o ymwneud â chyflenwi cyffuriau.
Cafodd Richard Rees, 31, o Bentre-baen ei gyhuddo o ymwneud â chyflenwi cocên, meddu ar gocên gyda'r bwriad o'i gyflenwi, a meddu ar ganabis.
Ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa i ymddangos mewn gwrandawiad pellach yn Llys y Goron Caerdydd fis nesaf.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Grant Wilson o Heddlu De Cymru:
“Mae calonnau dau deulu wedi torri o ganlyniad i farwolaeth dau oedolyn ifanc a oedd yn annwyl iddynt ac maent yn cael eu cefnogi wrth i ni fwrw ymlaen â'n hymholiadau.
“Mae ditectifs Heddlu De Cymru yn parhau i weithio'n galed i ddysgu mwy am yr union amgylchiadau ac yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni.
“Dylai'r arestiadau a'r cyhuddiadau gyfleu'r neges bod Heddlu De Cymru yn ystyried bod cyflenwi cyffuriau yn drosedd ddifrifol, na chaiff ei goddef.
“Unwaith eto, hoffwn atgoffa unrhyw un sy'n cymryd cyffuriau a rheoleiddir, neu sy'n ystyried eu cymryd, i ystyried y risgiau. Maent yn anghyfreithlon, gallwch fyth bod yn siŵr beth rydych yn ei gymryd a gallant gynnwys cymysgedd angheuol o gynhwysion gwenwynig.”
Gofynnir i dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth am y naill ddigwyddiad neu'r llall gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu rhif digwyddiad *414468.
📲 Rhowch wybod ar-lein: bit.ly/HDCRiportio
📧 E-bost: [email protected]
📞 Ffôn: 101 (am ddim) neu gallwch ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.
Mae Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru yn darparu un pwynt cyswllt dwyieithog am ddim ar gyfer unrhyw un sydd am gael rhagor o wybodaeth neu gymorth yn ymwneud â chyffuriau neu alcohol.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am bobl yn defnyddio neu'n gwerthu cyffuriau i gysylltu â'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.